Rydym yn uwchraddio lein Rhymni fel rhan o gam nesaf Metro De Cymru.

Gan ddechrau ym mis Mawrth, byddwn yn ymgymryd â rhaglen ddwys o waith peirianneg dros gyfnod o 8 mis ar ran uchaf lein Rhymni, o Gaerffili i orsaf Rhymni.

Er mwyn inni gyflawni’r rhaglen waith ddwys hon dros 8 mis mewn ffordd ddiogel, bydd yna adegau lle fydd y llinell ar gau a bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn gweithredu i alluogi cwsmeriaid i barhau i deithio.

Rydym yn annog ein holl gwsmeriaid i wirio llinell Rhymni cyn teithio.

Map metro: llinell Rhymni | Metro map: Rhymney line

Map o linell Rhymni uchaf, a ddangosir mewn coch uchod. 

 

Y gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn

Yn gynnar yn 2023, fe wnaethom gyflwyno ein trenau Dosbarth 231 ar lein Rhymni, a dyma oedd y trenau newydd sbon cyntaf a gyflwynwyd yn Ne-ddwyrain Cymru ers degawdau.

Ym mis Mehefin 2024, fe wnaethom newid yr amserlen ar Linellau Craidd y Cymoedd, gan ein galluogi i gyflwyno rhai o fanteision y Metro yn gynt. Roedd hyn yn darparu trên bob 10 munud rhwng Caerffili a Chaerdydd, a gwasanaeth ychwanegol rhwng Rhymni a Bargod.

Gwaith y gallwch chi ei ddisgwyl

Rhwng mis Ebrill a Rhagfyr 2025, caiff gwaith sylweddol ei gynnal ar linell uchaf Rhymni, sy’n rhedeg rhwng Caerffili a Rhymni.

Bydd gwaith seilwaith Cwm Rhymni’n cynnwys:

  • Trydaneiddio: Gosod Cyfarpar Llinell Uwchben (OLE) i drydaneiddio’r llinell.
  • Gwella Seilwaith: Uwchraddio ffensys o amgylch y rheilffordd a thrin llystyfiant sydd wedi tyfu’n wyllt.
  • Uwchraddio Traciau a Signalau: Uwchraddio cynhwysfawr ar draws y llinell, gan gynnwys gwneud traciau’n is ar gyfer trydaneiddio.
  • Gwelliannau i orsafoedd: Uwchraddio gorsaf Rhymni, gan gynnwys gosod seidins gwell yn yr orsaf lle caiff trenau newydd eu storio.

Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i gyflwyno trenau tri-modd newydd sbon i linell Rhymni, a fydd yn cael eu trydaneiddio gan drydan o Gyfarpar Llinell Uwchben (OLE), batri a diesel.

Ar gyfer ein cymdogion wrth ymyl y rheilffordd, bydd hyn yn golygu trenau tawelach a mwy amgylcheddol. Ar gyfer cwsmeriaid, bydd y trenau hyn yn creu teithiau trên mwy cyffyrddus, hygyrch a dibynadwy.

 

Newidiadau i wasanaethau ar lein Rhymni

Er mwyn gwneud gwaith sylweddol ar draws yr adran hon, bydd cyfnodau lle byddwn yn gorfod cau’r rheilffordd, a fydd yn caniatáu i'n timau weithio ddydd a nos i drawsnewid ac uwchraddio'r rheilffordd.

Rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2025, bydd y rheilffordd o Gaerffili i Rymni ar gau: 

  • Dydd Llun i ddydd Iau, ar ôl 19:00, gan ddechrau o 31 Mawrth 2025. 
  • Am 6 wythnos o ddydd Sadwrn 12 Ebrill i ddydd Gwener 23 Mai, ac o ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf i ddydd Sul 31 Awst. 
  • Am bythefnos o ddydd Sadwrn 18 Hydref i ddydd Sul 2 Tachwedd.
  • Ar draws sawl penwythnos (dydd Sadwrn a dydd Sul) drwy gydol y cyfnod hwn.  

Bydd y rhan fwyaf o gyfnodau cau’r rheilffordd yn digwydd rhwng Caerffili a Rhymni, gyda gwasanaeth trên arferol yn gweithredu o Gaerffili i Gaerdydd, ac ymhellach i orsafoedd Penarth, Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg fel yr arfer ar gyfer digwyddiadau mawr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

 

Cyfnodau Cau’r Rheilffordd

Ceir rhestr lawn o gyfnodau cau’r rheilffordd a gynlluniwyd ar linell uchaf Rhymni fesul mis i'w gweld isod. Sylwch y gall y cau hwn newid ar fyr rybudd, felly rydym yn argymell bod pob cwsmer sy'n teithio ar draws lein Rhymni yn gwirio cyn teithio.

 

Cyfnodau cau’r rheilffordd fesul mis:

Ebrill
Ebrill 2025 | April 2025
Mai
Mai 2025 | May 2025
Mehefin
Mehefin 2025 | June 2025
Gorffennaf
Gorffennaf 2025 | July 2025
Awst
Awst 2025 | August 2025
Medi
Medi 2025 | September 2025
Hydref
Hydref 2025 | October 2025

 

Parhau i deithio

Yn ystod cyfnodau lle mae'r rheilffordd ar gau, bydd gwasanaeth bws yn    cymryd lle pob gwasanaeth trên a gynlluniwyd. Bydd y bysiau hyn yn    teithio o Rymni/Bargod i Gaerffili (yn galw ym mhob gorsaf rhyngddynt) a byddant yn cysylltu â'r gwasanaethau trên o Gaerffili i Gaerdydd.

Pan fydd y rheilffordd ar gau, byddwn yn rhedeg gwasanaeth bws yn lle trên a fydd yn adlewyrchu'r amserlen drenau. Byddwn yn rhedeg bws bob 15 munud rhwng Caerffili a Bargod, a phob 30 munud rhwng Bargod a Rhymni.

 

Gwasanaethau bws Newydd

Rhymni i Gaerffili | Agor ar ffurf PDF

 

Arosfannau bysiau

Rhymni i Gaerffili
Rhymni i Gaerffili | Rhymney to Caerphilly
Caerffili i Gaerdydd
Caerffili i Gaerdydd | Caerphilly to Cardiff

 

Beth mae hyn yn ei olygu i'n cymdogion sy’n byw wrth ymyl y cledrau

Bydd ein timau'n gwneud gwaith trawsnewid mawr ar hyd lein Rhymni. Er mwyn gallu cwblhau'r gwaith hwn o fewn 8 mis, bydd angen i'n timau weithio yn ystod y dydd a'r nos o Gaerffili i Rymni.

Mae hyn yn golygu y bydd cyfnodau lle bydd gwaith peirianneg yn cael ei wneud yn ystod y nos, gan achosi tarfu i'r rhai sy'n byw yn agos at y cledrau.

Byddwn yn gwneud ein gorau i gysylltu â'n cymdogion cyn y bydd gwaith peirianneg swnllyd yn cael ei wneud gyda'r nos.

Oherwydd newidiadau munud olaf i raglenni gwaith, nid yw bob amser yn bosibl darparu union ddyddiadau ac amseroedd y gwaith sydd ar y gweill.

Rydym yn annog ein cymdogion wrth ymyl y rheilffordd i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein tudalen Facebook ac ar ein gwefan, lle byddwn yn postio newidiadau munud olaf i'n gwaith arfaethedig.

 

Dilynwch ein Gwybodaeth ddiweddaraf:

facebook.com/TFWCommunities

trc.cymru/ymgysylltu