Rydyn ni’n trawsnewid eich rheilffordd yn Ffynnon Taf

Rydyn ni'n parhau i baratoi Ffynnon Taf ar gyfer ei rôl newydd gyffrous fel calon y Metro yn Ne Cymru.

Mae gwaith adeiladu ein Depo a’n Canolfan Reoli Metro gwerth £100 miliwn yn parhau. Bydd y cyfleuster yn gartref i 36 o drenau tram Metro a dros 400 o aelodau o staff.

Ddechrau mis Chwefror, cafodd y cysylltiad newydd rhwng y depo a’r brif reilffordd ei osod, gyda’r trenau tram Metro cyntaf yn cyrraedd eu cartref newydd ddiwedd mis Mawrth.

Y tu ôl i’r depo, mae ein Canolfan Reoli Integredig newydd yn cael ei gosod cyn iddi agor. Ar ôl ei gomisiynu, bydd y 52 o gydweithwyr yno yn rheoli’r system signalau fodern newydd ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd ac yn rhoi cymorth i’n cwsmeriaid ar draws ardal y Metro.

 

Galw heibio cymunedol

Rydyn ni’n ddiolchgar i’r gymuned am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni drawsnewid trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd, rydyn ni’n trefnu sesiynau galw heibio rheolaidd yn y gymuned.

Byddan nhw’n cael eu cynnal mewn sawl lleoliad ar draws Ffynnon Taf ar wahanol adegau o’r dydd – does dim angen apwyntiad. Bydd cyfleoedd i gael gwybod mwy am ein gwaith seilwaith hanfodol a’r effaith y byddan nhw’n ei chael ar yr ardal.

I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn, cysylltwch ag engagement@tfw.wales.