Rydyn ni’n adeiladu eich pont droed Mynediad i Bawb

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu pont droed newydd Mynediad i Bawb yng ngorsaf drenau Ffynnon Taf. Ynghyd â chyflwyno ein trenau tram Metro gyda mynediad gwastad, bydd hygyrchedd yn cael ei wella’n sylweddol i’n cwsmeriaid.

Bydd y bont droed hon yng nghanol yr orsaf ac yn cynnwys mynediad lifft a grisiau i’r platfformau, gan ddisodli’r bont bresennol yn y pen deheuol.

Rydyn ni’n gosod y sylfeini ar gyfer y bont gan ddefnyddio peiriannau trwm sydd, yn anffodus, yn gwneud llawer o sŵn. Rydyn ni’n bwriadu cwblhau’r gwaith hwn yn ystod y dydd a byddwn yn gwneud ein gorau i leihau’r effaith y bydd yn ei chael ar bobl sy’n byw ger yr orsaf.

Bydd maes parcio’r orsaf ar gau i’r cyhoedd yn ystod y gwaith hwn. Fodd bynnag, bydd lle parcio arall (80 lle) ar gael yn y cyfleuster gorlif sydd wrth ymyl warws Amey Rail gyferbyn â’r orsaf, wrth ymyl depo newydd y Metro.

Cewch ragor o wybodaeth am ein pont droed newydd yma.