Rydym yn trawsnewid eich rheilffordd yn Ffynnon Taf
Rydym yn parhau â’n gwaith yn Ffynnon Taf er mwyn adeiladu’n safle depo newydd sbon, sef calon rhaglen Metro De Cymru. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn wrthi’n gweithio i ail-agor Ffordd Bleddyn, yn ogystal â chwblhau gwaith adeiladu’r bont droed newydd yn yr orsaf.
Ein gwaith i gwblhau Ffordd Bleddyn
Wrth i ni weithio tuag at ailagor Ffordd Bleddyn, mae angen i ni wneud gwaith hanfodol er mwyn sicrhau bod Ffordd Bleddyn a Heol Caerdydd yn ddiogel i'w defnyddio gan gerbydau, beicwyr a cherddwyr. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys gosod wyneb newydd ar y ddwy ffordd er mwyn adfer yr wyneb a aflonyddwyd yn ystod gwaith blaenorol, a gosod system rheoli traffig newydd.
Cau Ffordd Bleddyn
Bydd hyn yn golygu cau rhan o Ffordd Bleddyn rhwng cylchfan depo New Adventure a’r orsaf reilffordd am gyfnod byr a thros dro, ar y penwythnosau canlynol:
- O 19:00 on ddydd Gwener 17 Mai i 05:00 ddydd Llun 20 Mai
Bydd y ffordd ar agor i gerddwyr, a'r orsaf i deithwyr, fodd bynnag bydd angen i'r rhai sy'n gyrru i'r orsaf gynllunio ymlaen llaw a defnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio eraill, megis yng ngorsaf Radur. Bydd hefyd nifer fach o leoedd parcio yn Delyn Warehousing yn Ffynnon Taf.
Cau Ffordd Bleddyn
Bydd mynediad i gerbydau hyd at y gylchfan ac i mewn i'r ystâd ddiwydiannol yn parhau yn ei le.
Ein nod yw ailagor Ffordd Bleddyn gyda system draffig un lôn ar 31 Mai 2024. Bydd hyn yn caniatáu i draffig lifo i'r ddau gyfeiriad, a reolir gan oleuadau traffig a bydd yn caniatáu mynediad i gerddwyr drwy'r llwybr troed ar ochr yr orsaf. Rydym yn bwriadu ailagor y ffordd yn llawn yn ddiweddarach eleni.
- Coch - Cau’r ffordd dros dro benwythnos 17 - 20 Mai
- Oren - Ar gau tan 31 Mai 2024 (pan fydd yn ailagor fel lôn sengl ar gyfer cerbydau a llwybr troed i gerddwyr)
Cau Heol Caerdydd
Bydd hefyd angen i ni gau Heol Caerdydd wrth i ni wneud gwaith i osod wyneb newydd ar y ffordd ac adfer y ffordd a amharwyd arni yn ystod y gwaith cau ffyrdd blaenorol. Byddwn hefyd yn gosod system rheoli traffig newydd.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i Heol Caerdydd (y rhan a ddangoswyd mewn coch) gael ei chau dros y dyddiadau canlynol ym mis Mai:
- O 20:00 ddydd Iau 30 Mai i 05:00 ddydd Gwener 31 Mai
Cau Heol Caerdydd
Gwyriadau
Bydd dargyfeiriad wedi’i arwyddo’n llawn yn ystod y cyfnod cau hwn, a byddwn yn gosod arwyddion, ‘busnes fel arfer’ yn y gymuned. Bydd o hyd mynediad at Ffordd y Fynwent, Tŷ Rhiw a Ffordd Brynau drwy gydol y cyfnod hwn. Bydd gorsaf Ffynnon Taf a maes parcio’r orsaf hefyd ar agor drwy gydol y cyfnod hwn.
Dangosir y llwybr dargyfeirio ar gyfer cau Heol Caerdydd mewn glas. Bydd cerbydau'r gwasanaethau brys hefyd yn defnyddio'r llwybr hwn. Dangosir y llwybr i mewn i bentref Ffynnon Taf mewn piws ac mae wedi’i wahardd ar gyfer einlorïau.
Yn ystod cyfnod cau Ffordd Caerdydd, rydym yn argymell gyrwyr sy’n teithio i Ffynnon Taf i gymryd allanfa’r A4054/A468 tuag at Drefforest, gan adael yr A470 cyn cymryd yr allanfa gyntaf ar Ffordd Caerdydd/A4054 ar y gylchfan.
Mae’r gwyriadau i gerddwyr a beicwyr i’w gweld ar y map isod, gyda’r llwybr oren yn dangos y llwybr dargyfeirio heb risiau, a’r pinc yn dangos y llwybr dargyfeirio gan ddefnyddio’r pontydd troed dros Lwybr Taf a’r A470. Mae'r llwybr gwyrdd yn dangos y dargyfeiriad ar gyfer beicwyr, sy'n ymun Thaith Taf. Bydd y bont droed risiog yng ngorsaf Ffynnon Taf, a ddangosir ar hyd y llwybr melyn, ar agor fel arfer drwy gydol cyfnod cau’r ffordd, ynghyd â chroesfan Portabello.
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhedeg gwasanaeth bws gwennol drwy gydol y cyfnod cau. Bydd y gwasanaeth gwennol 132E yn rhedeg rhwng Gorsaf Reilffordd Ffynnon Taf, Taffs Well Inn a ffordd Cross Keys Caerffili a bydd mwy o fanylion ar gael ar-lein yn ystod yr wythnosau nesaf.
Cau Llwybr Taf
Byddwn yn gwneud gwaith i ail-wynebu rhan 50m o lwybr troed Llwybr Taf rhwng Clwb Pêl-droed Ffynnon Taf a Depo Ffynnon Taf ddydd Gwener 10 Mai 2024 (gweler y map isod). Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gau'r rhan hon o'r llwybr yn llwyr i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd arwyddion i fyny'r wythnos cyn hynny er mwyn cynghori'r cyhoedd, ac ar ddiwrnod y cau byddwn yn amgáu’r ardal â ffens ac yn rhoi gwyriadau ar waith ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Bydd mynediad yn parhau i fod ar gael i drigolion sy'n byw ar hyd y rhan hon o'r llwybr troed.
Lleoliad Cau Llwybr Taf
Cysylltwch â ni
Hoffem ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd parhaus wrthi inni baratoi Ffynnon Taf ar gyfer Metro De Cymru. Rydym yn deall bod ein gwaith yn gallu amharu arnoch, yn enwedig gan fod angen inni weithio gyda’r nos, ond byddwn yn ceisio cyflawni’r gwaith swnllyd yn ystod y dydd, lle bynnag posib.
Gellir dod o hyd i dudalen we Ffynnon Taf yma. Mae ein tîm ar gael 24/7 i ateb eich cwestiynau, felly ffoniwch ni ar 03333 211 202. Fel arall, gallwch gysylltu â ni ar WhatsApp ar 07790 952 507 (07:00 - 20:00 ddydd Llun i ddydd Gwener, a 11:00 - 20:00 ddydd Sul). Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech dderbyn yr wybodaeth mewn fformat gwahanol, ewch i trc.cymru/cysylltu-a-ni.