Mae ein trenau tram newydd wedi cyrraedd eu cartref yn Ffynnon Taf
Mae’r cyntaf o’n trenau tram Metro newydd wedi cyrraedd eu cartref newydd yn ein depo gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf.
Gyda phŵer offer llinellau uwchben trydanol a phŵer batri, byddan nhw’n llawer mwy gwyrdd na’n trenau presennol. Maen nhw hefyd yn llawer tawelach, gan greu llai o sŵn i’n cymdogion wrth ymyl y cledrau.
Mae ein trenau tram wedi’u dylunio i weithredu fel trenau confensiynol ar reilffyrdd presennol ac fel tramiau ar estyniadau Metro yn y dyfodol, gan drawsnewid y ffordd y mae pob un ohonom yn teithio ar draws y rhanbarth.
Mae pob un o’r 36 uned yn dri cherbyd o hyd, gyda 126 o deithwyr â chyfanswm capasiti o 252 o bobl. Mae yna hefyd bedwar lle i feiciau ar bob trên tram a rampiau gwastad i wella hygyrchedd ein holl gwsmeriaid yn sylweddol.
Ar y cyd â gwella cledrau, signalau a gorsafoedd, byddant yn galluogi 12 trên yr awr i deithio rhwng Pontypridd a Chaerdydd drwy Ffynnon Taf, i bob cyfeiriad. Mae’n gynnydd sylweddol mewn capasiti a, lle bo’n bosibl, bydd rhai gwasanaethau hefyd yn gweithredu mewn ffurfiau dwbl hefyd.