Ar Ragfyr 24 2023, ail-agorwyd croesfan reilffordd Portobello dros dro, a leolir ychydig i'r gogledd o orsaf Ffynnon Taf.

Byddwn yn cau'r groesfan reilffordd yn barhaol ar 2 Mehefin 2024 yn unol â'n newidiadau i’r amserlenni a fydd ar waith o'r dyddiad hwnnw. Mae'r newidiadau hyn i’r amserlenni yn ein galluogi i gyflwyno gwasanaethau trên amlach a hwyrach; dechrau gwirioneddol i system ‘cyrraedd a mynd’ Gwasanaeth Metro De Cymru. Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu y bydd 16 trên yr awr (8 i bob cyfeiriad) trwy Ffynnon Taf.

Mae'r gwasanaethau amlach (y mae pob un ohonynt yn galw yng ngorsaf Ffynnon Taf) yn golygu nad yw bellach yn ddiogel cadw croesfan reilffordd Portobello ar agor.

Unwaith y bydd y groesfan reilffordd ar gau, bydd angen i gerddwyr sy'n dymuno croesi'r rheilffordd ddefnyddio'r grisiau dros y bont droed bresennol neu ddefnyddio llwybr cerddwyr Ffordd Bleddyn a fydd yn ailagor ar 31 Mai. Bydd y gwyriad dros dro hwn ar waith wrth i ni barhau â'n gwaith i osod y bont droed gwbl hygyrch yng Ngorsaf Ffynnon Taf, gyda mynediad grisiau a lifft i bob platfform yn yr orsaf. Ein nod yw agor y bont hon i'r cyhoedd yn haf 2024. Yna bydd hyn yn troi'n wyriad parhaol a hawl tramwy gyhoeddus ar ôl cau'r groesfan reilffordd.

Ffordd Bleddyn accessible route diversion

 

  • Pam mae angen i chi gau croesfan y rheilffordd yn barhaol?

    • Cafodd y rhan fwyaf o’n seilwaith ei adeiladu yn ystod dyddiau cynnar y rheilffyrdd lle nad oedd ceir, na chymaint o bobl yn byw wrth ymyl croesfannau rheilffordd. Mae'r byd yn lle gwahanol iawn erbyn hyn, sy’n golygu bod croesfannau yn llawer mwy peryglus nag yr oedd yr adeiladwyr wedi’i fwriadu wrth eu hadeiladu.
    • Byddai cadw’r groesfan ar agor yn dilyn y cynnydd mewn gwasanaethau yn beryglus iawn, gyda threnau’n teithio drwy’r groesfan bob 2-3 munud. Gan y bydd trenau hefyd yn mynd i mewn ac allan o safle’r depo, bydd hyn hefyd yn achosi cynnydd mewn symudiadau trenau drwy orsaf Ffynnon Taf, ac ni fydd y symudiadau trên hyn bob amser yn ymddangos ar gynllunwyr teithiau ar-lein. 
    • Nid yw cau croesfan reilffordd yn llwyr yn gam rydyn ni’n ei gymryd ar chwarae bach, ond dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r risg o ddamweiniau.
    • Mae pont droed hygyrch newydd yn cael ei hadeiladu ychydig ymhellach i fyny’r rheilffordd yng ngorsaf Ffynnon Taf, a bydd yn agored i bawb sydd angen croesi dros y rheilffordd.  Bydd gan y bont newydd fynediad grisiau a lifft i bob platfform a bydd ar gael 24/7.
  • Pam na allwch chi adeiladu pont yn yr un lleoliad â’r groesfan?

    • Nid ydym yn gallu adeiladu pont droed newydd yn safle’r groesfan Portobello bresennol gan nad oes digon o le ar gael. Pe bai’r bont newydd yn gwbl hygyrch a heb risiau, byddai angen rampiau hir arni i ddarparu’r graddiannau iechyd a diogelwch gofynnol, gan effeithio ar fwy o eiddo cyfagos a mynnu ôl troed mwy byth o dir y tu allan i ffin ein tir.
    • Rydyn ni hefyd yn archwilio’r llwybr mwyaf addas i’r bont droed newydd hon yn yr orsaf ac oddi yno er mwyn sicrhau ei bod mor hygyrch ac mor effeithlon â phosib i’r cerddwyr a’r beicwyr a fydd yn ei defnyddio.
  • Pam wnaeth y groesfan reilffordd gael ei chau ym mis Mai?

    • Caeodd croesfan y rheilffordd ym mis Mai i ddechrau er mwyn i ni allu gwneud gwaith sylweddol ar lefel y cledrau drwy’r groesfan a’r orsaf. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, fe wnaethom wedyn ddechrau ymchwilio i sut gellid ailagor y groesfan yn ddiogel dros dro.
    • Roedd hi’n amlwg y byddai angen ychwanegu nifer o fesurau diogelwch at y groesfan er mwyn gwella ei diogelwch cyn y gallem ei hailagor. Yn dilyn dadansoddiad trylwyr gan ein timau diogelwch, ac ar ôl cwblhau nifer o asesiadau risg, cytunwyd y gallai’r groesfan ailagor ar ôl i’r holl fesurau diogelwch gael eu gosod.
    • Rhwng mis Mai a mis Rhagfyr, mae ein timau’n gweithio’n galed i osod y mesurau diogelwch canlynol:
      • Arwyddion ychwanegol wrth y groesfan. 
      • Cyfyngiad cyflymder dros dro o 20mya ar gyfer pob trên sy’n nesáu at y groesfan.
      • Gosod camerâu i leihau’r risg o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wrth y groesfan.
      • Torri llystyfiant sydd wedi gordyfu ar y naill ochr a’r llall i’r groesfan er mwyn ei gwneud yn haws gweld.
      • Bariau ychwanegol wrth ddynesu at y groesfan i annog beicwyr i ddod oddi ar eu beic. 
      • Ychwanegu arwyddion chwibanu er mwyn i’r trenau ganu eu cyrn wrth nesáu at y groesfan, fel roedden nhw’n ei wneud o’r blaen.
    • Ym mis Hydref, gwnaethon ni gyhoeddi y byddem yn anelu at agor y groesfan ym mis Tachwedd, ond oherwydd i asesiadau diogelwch critigol a gynhaliwyd nodi y byddai angen gwneud rhagor o waith diogelu, rydyn ni wedi symud y dyddiad y byddwn yn ailagor y groesfan i 24 Rhagfyr.
    • Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd drwy gydol y cyfnod pan gaewyd croesfan y rheilffordd. Rydyn ni’n deall yr effaith y mae cau’r groesfan wedi’i chael ar drigolion.
  • Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y bws gwennol presennol?

    • Rhwng nawr a 24 Rhagfyr, bydd ein gwasanaeth bws gwennol yn parhau i redeg i ddarparu mynediad i’r naill ochr a’r llall i’r rheilffordd. Mae ein bws gwennol yn gweithredu 24/7 ac yn teithio o amgylch y pentref i alw ar ddwy ochr y groesfan a’r orsaf. Gellir galw’r gweithredwr bysiau ar 07984 880 026 (10:00 - 22:00) a 07982 914 165 (22:00 - 10:00). Pan fydd y groesfan yn ailagor dros dro, byddwn wedyn yn cael gwared â’r gwasanaeth bws gwennol.

 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gysylltu â ni, mae ein tîm ar gael 24/7. Y rhif ffôn yw 03333 211 202.  Fel arall, gallwch ddefnyddio WhatsApp i gysylltu â ni - y rhif ffôn yw 07790 952 507 (07:00 - 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 110:0 - 20:00 ar ddydd Sul).