Cymerwch gipolwg ar ein trenau Metro
Gallwch gael taith rithiol o’n trenau newydd drwy glicio’r botwm isod. Bydd y trenau hyn yn cynyddu ein capasiti yn sylweddol, ac yn trawsnewid profiadau cwsmeriaid wrth deithio. Byddant hefyd yn cynnig llawer o nodweddion newydd, gan gynnwys mynediad gwastad, mwy o le i feiciau, a system awyru.
Bydd y profiad yn gweithio orau gan ddefnyddio clustffonau VR ond gallwch barhau i archwilio a symud drwy ddefnyddio’ch cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol.
Defnyddiwch y ddewislen yn y daith ryngweithiol i symud o gwmpas ac i archwilio.
| Symbol | Gweithredu |
| Mynd yn ôl i’r sgrin flaenorol | |
| Gweld pob sgrin | |
| Edrych i’r chwith | |
| Edrych i’r dde | |
| Edrych i fyny | |
| Edrych i lawr | |
| Nesáu | |
| Pellhau | |
| Defnyddio modd VR (yn rhannu’r sgrin ar gyfer sbectol VR) | |
| Sgrin lawn | |
| Cuddio’r ddewislen | |
| Symud ymlaen | |
| Defnyddio’r synwyryddion symud ar ffôn clyfar neu dabled i edrych o gwmpas. |