Ein fflyd ar gyfer Metro De Cymru

Bydd Metro yn darparu trenau newydd sbon ar linellau’r Cymoedd, gan ddarparu gwasanaethau Metro modern ac effeithiol lle gall ein cwsmeriaid gyrraedd a mynd.

Bydd y trenau hyn yn cynyddu ein capasiti yn fawr, ac yn trawsnewid y profiadau mae ein cwsmeriaid yn eu cael wrth deithio. Byddant hefyd yn cynnig llawer o nodweddion newydd, gan gynnwys mynediad gwastad, mwy o le i feiciau, a system awyru.

 

Stadler FLIRT (TMMU) Dosbarth 231

Class 231

Mae'r Trenau Dosbarth 231 Fast Light Intercity and Regional Trains (FLIRTs) yn cael eu hadeiladu gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler.

Mae'r trenau hyn yn cael eu pweru gan 4 uned injan diesel.

Fe'u cyflwynwyd ar lein Rhymni ym mis Mawrth 2023, gydag 8 uned yn gwasanaethu ar hyn o bryd.

Gallwch gael taith rith-ryngweithiol o’r trên yma.

Pa nodweddion sydd ganddynt?

Mae eu nodweddion yn cynnwys aerdymheru modern, socedi pŵer a sgriniau gwybodaeth i deithwyr gyda’r wybodaeth gwbl ddiweddar ynglŷn â theithio.

Mae gan bob trên le ar gyfer hyd at 6 beic a mynediad gwastad awtomatig i gynorthwyo'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig, yn ogystal â thoiledau hygyrch.

Faint ohonynt fydd yn gwasanaethu?

Rydym wedi cyflwyno 11 x trên 4 uned.

Ar ba linellau byddant yn rhedeg?

Ar hyn o bryd, mae'r trenau hyn yn rhedeg ar lein Rhymni, gan deithio i Gaerdydd ac ymlaen i Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr ar hyd lein Bro Morgannwg.

Unwaith y bydd yr holl drenau Metro newydd wedi'u cyflwyno, byddant yn symud i lwybrau Glyn Ebwy, Cheltenham a Maesteg, gyda'r trenau Dosbarth 756 yn rhedeg ar linellau Rhymni a Coryton.

 

Stadler FLIRT (Tri-Modd) Dosbarth 756

Class 756

Trenau Dosbarth 756 Fast Light Intercity a Regional Trains (FLIRTs), a adeiladwyd gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler, yw'r fersiwn tri-dull o'n trenau Dosbarth 231.

Mae'r trenau hyn yn unedau tri-dull arloesol, sy’n cael eu gyrru gan linellau pŵer uwchben a diesel/trydan ar rannau o'r rhwydwaith nad ydynt wedi'u trydaneiddio. Mae hyn yn golygu eu bod yn llawer mwy gwyrdd ac felly’n well i’r amgylchedd.

Pa nodweddion sydd ganddynt?

Mae eu nodweddion yn cynnwys aerdymheru modern, socedi pŵer a sgriniau gwybodaeth i deithwyr gyda’r wybodaeth gwbl ddiweddar ynglŷn â theithio.

Mae gan bob trên le ar gyfer hyd at 6 beic a mynediad gwastad awtomatig i gynorthwyo'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig, yn ogystal â thoiledau hygyrch.

Sawl un fydd yn gwasanaethu?

Byddwn yn cyflwyno cyfanswm o 17 uned.

Pryd fyddan nhw'n cael eu cyflwyno?

Bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno o fis Tachwedd 2024 ymlaen i linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert.

Ar ba linellau byddant yn rhedeg?

Bydd y trenau Dosbarth 756s yn rhedeg ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert i ddechrau.

O Wanwyn/Haf 2025, bydd nifer fach yn cael eu cyflwyno ar linellau Coryton a Chaerffili, gan deithio i Benarth.

Ar ôl cyflwyno'r holl drenau Metro newydd, gan gynnwys y tram-drenau, bydd y trenau Dosbarth 756 yn symud draw i lein Rhymni, gan deithio i Gaerdydd ac ymlaen i Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr ar hyd lein Bro Morgannwg.

  • Bwrwch olwg ar ein trenau FLIRT
    • Interior 1

    • Interior 2
    • Interior 3
    • Interior 4
    • Interior 5

 

Stadler Citylink Tram-Tren (Dosbarth 398)

Class 398 Citylink

Mae tram-drenau Citylink, a adeiladwyd gan Stadler, yn drenau cwbl drydanol gyda'r gallu unigryw i redeg ar reilffyrdd trwm traddodiadol ac ar lefel y stryd yn union fel tram.

Wedi'u pweru’n drydanol gan linellau pŵer uwchben a batri, mae'r tram-drenau yn cynnig cyflymu sydyn, mynediad gwastad o'r trên i'r platfform, ac ardaloedd amlddefnydd ar gyfer beiciau a chadeiriau olwyn.

Byddant yn cael eu storio yn ein cyfleuster cynnal a chadw newydd sbon yn Ffynnon Taf.

Pa nodweddion sydd ganddynt?

Mae eu nodweddion yn cynnwys aerdymheru modern, socedi pŵer a gwell sgriniau gwybodaeth i deithwyr.

Mae gan bob trên le ar gyfer hyd at 6 o feiciau yn ogystal â mynediad gwastad uchel ar lefel y llawr o'r trên i'r platfform, gydag addasiadau platfform ar draws y rhwydwaith.

Nid oes gan y tram-drenau doiledau ar y trên; fodd bynnag, rydym yn gosod toiledau mewn sawl gorsaf ar draws y rhwydwaith ar hyn o bryd i sicrhau bod gan ein cwsmeriaid fynediad at gyfleusterau toiled o hyd wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Faint ohonynt fydd yn gwasanaethu?

Byddwn yn cyflwyno cyfanswm o 36 uned â thri cherbyd yr un.

Pryd fyddan nhw'n cael eu cyflwyno?

Bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno yn ystod yr 2025.

Ar ba linellau maen nhw'n rhedeg?

Bydd tram-drenau Dosbarth 398 yn rhedeg ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert, gan deithio i Gaerdydd a Bae Caerdydd. Mae'r holl linellau hyn wedi'u trydaneiddio'n llawn.

  • Tarwch olwg ar sut bydd ein trenau Citylink yn edrych
    • Interior 1

    • Interior 2
    • Interior 3
    • Interior 4
    • Interior 5

 

Gorsafoedd

Dinas Rhondda

Byddwn ni'n gwneud rhai gwelliannau cyffrous yn y blynyddoedd nesaf i wella’r profiadau y mae ein cwsmeriaid yn eu cael wrth deithio. Ymysg rhai o’r gwelliannau a welwch bydd teledu cylch cyfyng, peiriannau tocynnau, a chysylltiadau gwell ar gyfer seiclo a cherdded. Rydyn ni hefyd yn gwella hygyrchedd yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau, yn ogystal ag yn gosod cyfleusterau toiledau ar nifer o orsafoedd Metro.

Beth ydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn?

Cwblhawyd 10 estyniad i blatfformau i'n galluogi i redeg trenau newydd sy’n hirach.

28 darn o waith gwella mynediad gwastad mewn gorsafoedd er mwyn gallu darparu mynediad heb risiau i'r trenau newydd.

11 pont newydd dros linellau rheilffordd.

4 pont Mynediad i Bawb newydd gyda mynediad lifft a grisiau i bob platfform.

Gorsaf newydd sbon wedi'i gosod yn Aberdâr, a fydd yn cael ei defnyddio o wanwyn 2025.

Mae gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu ar lein Bae Caerdydd, a elwir yn Orsaf Trebiwt.

Gwelliannau yn y dyfodol:

Er bod gwaith yn parhau i gyflawni'r Metro, gyda’r gwaith yn cynyddu ar linellau Coryton a Rhymni, bydd gwaith mawr yn cael ei wneud i gyflawni:

  • Gorsaf Heol Crwys wedi'i lleoli ar lein Rhymni
  • Pont Mynediad i Bawb newydd yng ngorsaf Cathays

 


 

Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.