
Cledrau Croesi Caerdydd
Tramffordd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd
Daeth ymgynghoriad cyhoeddus Cledrau Croesi Caerdydd ar gynigion ar gyfer tramffordd newydd sbon rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd i ben ddydd Sul 27 Hydref.
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan a rhannu eu barn. Bydd yr adborth yn helpu i lywio penderfyniadau allweddol ar y cynllun a llunio’r prosiect, yr ydym yn ei gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd.
Gallwch weld yr adroddiad ymgynghori y gwnaethom ymrwymo i'w rannu yn ein Hymrwymiad Ymgynghori Cledrau Croesi Caerdydd a gyhoeddwyd yn haf 2024 yma.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i ddarparu gwasanaeth tramffordd rhwng gorsaf drenau Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, gan gysylltu'r ddau yn uniongyrchol gyda thrên am y tro cyntaf erioed. Bydd cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd yn gwella'r rhwydwaith trenau rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd yn sylweddol, gan fod o fudd i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.
Dyma fydd y cynllun yn ei ddarparu:
- Gorsaf newydd dau blatfform yn rhan ddeheuol o faes parcio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyda chyfnewidfa gyfleus er mwyn gallu cysylltu'n rhwydd â gorsaf Caerdydd Canolog.
- Cyswllt trên-tram newydd o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi drwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd
- Trydydd platfform yng ngorsaf Bae Caerdydd (yn ogystal â'r ail, sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
- Gwelliannau i fannau cyhoeddus ar y llwybr i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau.
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu cysylltiad newydd o orsaf Bae Caerdydd i orsaf newydd sbon ar Stryd y Pierhead. Mae hyn yn amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol.
Mae'r cynllun yn cyd-fynd yn llawn â'n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru. Bydd yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu platfform newydd ar lein Bae Caerdydd i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio gwasanaeth trên -tram newydd sbon.
Er mwyn gallu rhoi cam cyntaf prosiect Cledrau Croesi Caerdydd ar waith, bydd newidiadau i gynllun y ffordd ar Sgwâr Callaghan a llwybrau traffig yn yr ardal. Bydd gwelliannau hefyd yn angenrheidiol i gysylltiadau teithio llesol (cerdded, beicio ac olwynio) â rhannau newydd o lwybrau beicio a llwybrau troed gwell i gerddwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau ymgysylltu.

