Cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd 1 Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Cledrau Croesi Caerdydd?
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i ddarparu gwasanaeth tramffordd rhwng gorsaf drenau Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, gan gysylltu'r ddau yn uniongyrchol gyda thrên am y tro cyntaf erioed. Bydd cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd yn gwella'r rhwydwaith trenau rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd yn sylweddol, gan fod o fudd i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.
Dyma fydd y cynllun yn ei ddarparu:
- Gorsaf newydd dau blatfform yn rhan ddeheuol o faes parcio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyda chyfnewidfa gyfleus er mwyn gallu cysylltu'n rhwydd â gorsaf Caerdydd Canolog.
- Cyswllt trên-tram newydd o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi drwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd
- Trydydd platfform yng ngorsaf Bae Caerdydd (yn ogystal â'r ail, sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
- Gwelliannau i fannau cyhoeddus ar y llwybr i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau.
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu cysylltiad newydd o orsaf Bae Caerdydd i orsaf newydd sbon ar Stryd y Pierhead. Mae hyn yn amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol.
Mae'r cynllun yn cyd-fynd yn llawn â'n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru. Bydd yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu platfform newydd ar lein Bae Caerdydd i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio gwasanaeth trên -tram newydd sbon.
Er mwyn gallu rhoi cam cyntaf prosiect Cledrau Croesi Caerdydd ar waith, bydd newidiadau i gynllun y ffordd ar Sgwâr Callaghan a llwybrau traffig yn yr ardal. Bydd gwelliannau hefyd yn angenrheidiol i gysylltiadau teithio llesol (cerdded, beicio ac olwynio) â rhannau newydd o lwybrau beicio a llwybrau troed gwell i gerddwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau ymgysylltu.
Sut caiff y prosiect ei ariannu?
Sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TrC, £100 miliwn o gyllid ar gyfer Cam 1a Cledrau Croesi Caerdydd, i ddarparu tramffordd rhwng Caerdydd Canolog a'r Bae. Sicrhawyd £50 miliwn gan Lywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect.
Sut cafodd y prosiect ei ddatblygu?
Mae Cam 1a Cledrau Croesi Caerdydd yn rhan o weledigaeth ehangach Cledrau Croesi Caerdydd a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019.
Sut y bydd y prosiect hwn yn cyd-fynd â Metro De Cymru?
Bydd y cynllun yn ymestyn ar y gwaith sy'n cael ei gwblhau fel rhan o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, sy'n cynnwys trawsnewid lein Bae Caerdydd. Mae'n cyd-fynd yn llawn â'n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru.
Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn darparu mynediad at swyddi, hamddena a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau trên, bws, cerdded a beicio.
Sut bydd y prosiect hwn yn cyd-fynd ag Achos Busnes Amlinellol Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd?
Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer llwybrau trafnidiaeth yn y dyfodol rhwng Caerdydd Canolog a Ffordd Casnewydd, trwy Fae Caerdydd a Phorth Teigr. Byddai'r rhain yn welliannau yn y dyfodol ar ôl cwblhau gorsaf newydd Butetown, y gwaith uwchraddio arfaethedig i orsaf Bae Caerdydd a rhoi ar waith Cam 1a prosiect Cledrau Croesi Caerdydd, cyn belled ag y gellir sicrhau cyllid.
Cyflwynwyd opsiynau coridor i'r cyhoedd trwy ymgynghoriad cyhoeddus saith wythnos a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2023. Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn llywio'r achos busnes a'r dyluniad terfynol.
Sut alla i ddweud fy nweud?
Lansiwyd ein hymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd ar 16 Medi 2024 a daeth i ben ar 27 Hydref 2024. Bydd yr adborth a gawsom yn helpu i lywio penderfyniadau allweddol yn ymwneud â’r cynllun yn ogystal â siapio'r prosiect, yr ydym yn ei gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd.
Gallwch weld adroddiad llawn yr ymgynghoriad yma.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein platfform ymgysylltu. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am sut rydym yn ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch y cynllun drwy ddarllen ein Hymrwymiad Ymgynghori Cledrau Croesi Caerdydd.