O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu â’r farchnad sy’n ymwneud â chyfleoedd yr ydym yn tendro amdanynt. Am ragor o fanylion am y digwyddiadau hyn, edrychwch ar GwerthwchiGymru am ein rhestr gyfredol o gyfleoedd. Y digwyddiadau allanol isod yw lle byddwn yn cefnogi yn y misoedd nesaf.

Rydym am adeiladu cadwyn gyflenwi gref, amrywiol a chystadleuol drwy ymgysylltu'n gynnar ac yn agored â chyflenwyr posibl.

Rydym yn cynnal digwyddiadau cadwyn gyflenwi i gysylltu â phartneriaid yn y diwydiant, deall y farchnad a sicrhau bod ein prosesau caffael yn dryloyw, yn gystadleuol, yn deg ac yn cynnig gwerth am arian.

Bydd y digwyddiadau hyn yn helpu eich busnes i ddeall ein cyfleoedd caffael a'n gofynion allweddol. Maent yn gyfle i chi ymgysylltu'n uniongyrchol â ni, gofyn cwestiynau a chynyddu gwelededd eich busnes.

I ni, mae digwyddiadau cadwyn gyflenwi yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar dueddiadau, galluoedd cyflenwyr a risgiau posibl - gan ein helpu i wneud penderfyniadau caffael gwybodus a chyfrifol sy'n darparu gwell gwerth i ni, ein cyflenwyr a'n cwsmeriaid.

Ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad, rydym yn cyhoeddi hysbysiadau (DU2) ar GwerthwchiGymru a Gwasanaeth Canfod Tendr Llywodraeth y DU.

Ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau eraill yn y gadwyn gyflenwi, byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau ar Ddigwyddiadur Busnes Cymru.

 

Awst

Digwyddiadau allanol sydd ar y gweill

Gwiriwch yn ôl am ddigwyddiadau allanol sydd ar y gweill.

Medi

Digwyddiadau allanol sydd ar y gweill

Gwiriwch yn ôl am ddigwyddiadau allanol sydd ar y gweill.

Hydref

Digwyddiadau allanol sydd ar y gweill

Gwiriwch yn ôl am ddigwyddiadau allanol sydd ar y gweill.

Tachwedd

Upcoming external events

Check back for upcoming external events.

Rhagfyr

Upcoming external events

Check back for upcoming external events.

Ionawr

Upcoming external events

Check back for upcoming external events.


 

Cysylltu

Cyfeiriad cofrestredig

3 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH