Mae cyflenwi i'r sector cyhoeddus yn sylfaenol wahanol i weithio gyda busnesau preifat. Mae'n cael ei lywodraethu gan reoliadau llym sy'n hyrwyddo tryloywder, tegwch ac atebolrwydd ynghylch defnyddio arian cyhoeddus.

Mae'r rheolau hyn yn dylanwadu ar sut mae contractau'n cael eu hysbysebu, eu dyfarnu a'u rheoli, gan olygu'n aml fod angen gweithdrefnau mwy ffurfiol a mwy o graffu. Mae newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth wedi ail-lunio sut rydym yn gweithio gyda'n cyflenwyr.

 

Newidiadau mewn caffael cyhoeddus

Mae tri darn newydd o ddeddfwriaeth yn effeithio ar y ffordd rydym yn prynu gwaith, nwyddau a gwasanaethau.

  • Deddf Caffael 2023
  • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

 

Deddf Caffael 2023

Nod y ddeddfwriaeth hon yw symleiddio a moderneiddio'r ffordd y mae cyrff y sector cyhoeddus yn prynu gwaith, nwyddau a gwasanaethau. Y prif nodau yw cynyddu tryloywder, gwella gwerth am arian, hyrwyddo arloesedd a chefnogi canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol. Daeth y Ddeddf i rym ar 24 Chwefror 2025.

 

Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

Daw'r rhain o dan Ddeddf Caffael 2023. Maent yn darparu rheolau a gweithdrefnau manwl ar gyfer sut mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu yng Nghymru. Mae'r rheoliadau'n sicrhau bod caffael gan Awdurdodau Datganoledig Cymru yn adlewyrchu blaenoriaethau a fframweithiau cyfreithiol Cymru. Maent yn cynnwys darpariaethau penodol megis y gofyniad i ddilyn Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC) yn lle Datganiad Polisi Caffael Cenedlaethol y DU gyfan, ac eithriadau rhag rhai gofynion cyhoeddi ar gyfer contractau gwerth uchel.

 

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Nod y ddeddfwriaeth hon yw gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy wneud penderfyniadau ar y cyd a chaffael sy'n gymdeithasol gyfrifol. Mae'n sefydlu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gynnwys amrywiol randdeiliaid ac yn hyrwyddo arferion gwaith teg ar draws y rhanbarth. Mae'r Ddeddf yn annog cyrff cyhoeddus i ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn eu penderfyniadau caffael.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i'm busnes

  • Gweithdrefnau a phroses dendro symlach a hyblyg
  • Cefnogaeth gryfach i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) a mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol
  • Mwy o dryloywder a mynediad at gyfleoedd tendro
  • Adborth cyson gan gyflenwyr ac atebolrwydd
  • Mwy o ffocws ar werth cymdeithasol

 

Beth sydd angen i'm busnes ei wneud?

I fod yn gymwys i gyflenwi TrC, bydd angen i chi gofrestru manylion eich cwmni ar Wasanaeth Canfod Tendr Llywodraeth y DU, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth uchod. Byddwch yn derbyn Cod Adnabod Unigryw i'w ddefnyddio wrth gyflwyno tendrau i gyrff sector cyhoeddus fel TrC.

Bydd angen eich Cod Adnabod Unigryw arnoch i gofrestru ar GwerthwchiGymru. Rydym yn hysbysebu ein holl gyfleoedd agored yma, gan gynnwys y rhai islaw'r trothwy caffael. Mae cofrestru am ddim ac yn cymryd tua 20 munud. Ar ôl cofrestru, cwblhewch eich proffil cyhoeddus i arddangos eich busnes a sefydlu rhybuddion i gael hysbysiadau am gyfleoedd a allai fod yn iawn i chi.

Rydym yn deall y gall llywio caffael yn y sector cyhoeddus fod yn anodd. Gall y dolenni canlynol eich helpu i ddysgu rhagor am yr hyn sy'n ofynnol.

 

Dolenni defnyddiol

Suppliers: How to register your organisation and first administrator on Find a Tender in three easy steps (HTML) - GOV.UK

​GwerthwchiGymeu: Croeso I GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru

Caffael yn y sector cyhoeddus | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

The Procurement Act 2023: A short guide for suppliers (HTML) - GOV.UK

Diwygio caffael yng Nghymru [HTML] | LLYW.CYMRU

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) | LLYW.CYMRU

Guidance: Central Digital Platform and Publication of Information (HTML) - GOV.UK

etenderwales: e-tendering portal for Value Wales - eTenderWales

 

Cysylltu

Cyfeiriad cofrestredig

3 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH