A allai fy musnes gyflenwi TrC?
Rydym yn prynu amrywiaeth o waith, nwyddau a gwasanaethau ac mae pob contract yn wahanol. Mae'r cyflenwr a ddewiswn yn dibynnu ar:
- Ein rheolau caffael a gofynion Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024.
- Gwerth y contract rydyn ni'n ei dendro.
- Cymhlethdod ein gofynion.
- Amodau’r farchnad.
- Llwybrau presennol i'r farchnad e.e. Fframweithiau'r Sector Cyhoeddus.
Ble alla i ddod o hyd i gyfleoedd gyda TrC?
Rydym yn cynnal proses dendro agored a chystadleuol ar GwerthwchiGymru. Mae cofrestru am ddim a chewch hysbysiadau am ein cyfleoedd cyfredol ac unrhyw ddiweddariadau eraill. Rydym hefyd yn cyhoeddi ein tendrau uwchlaw'r trothwy ar Wasanaeth Canfod Tendr y Llywodraeth.
Gallwch weld ein hysbysiadau piblinell (DU1) a'n hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad (DU2) i weld ein contractau sydd ar ddod, amserlenni tendro a (lle bo modd) y dull caffael rydym yn bwriadu ei ddefnyddio.
Gwiriwch y platfformau hyn yn rheolaidd. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw os ydych chi am weithio gyda ni.