Rydyn ni’n casglu astudiaethau achos o ymgyrchoedd ac ymyriadau sy’n gweithio.
Rydym yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio’r enghreifftiau hyn i ysbrydoli a llywio eu hymgyrchoedd eu hunain.
Pont newydd sy’n cysylltu cymunedau yn Llanelli
Agorodd Pont Phil Bennett yn 2023. Mae'n caniatáu i gerddwyr a beicwyr groesi'r A484 yn ddiogel ac yn rhoi mynediad i'r ganolfan fanwerthu ym Mharc Trostre.
Ymgysylltu â phobl ifanc - Coleg Castell-nedd Port Talbot
Ymwelodd Tîm Teithio Llesol TrC â Choleg Castell-nedd Port Talbot ym mis Tachwedd 2024 i gynnal sesiwn ymgysylltu â myfyrwyr ynglŷn â’u dewisiadau teithio.
Creu lle diogel i gerdded, beicio a sgwtera i'r ysgol
Yn 2023, adeiladodd Cyngor Torfaen lwybr 180 metr o hyd newydd o Court Farm Road i Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam.
Croesawu e-feiciau ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5
Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddarparu cyfleusterau storio beiciau trydan gyda mannau gwefru a standiau cynnal a chadw mewn lleoliadau allweddol ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 5. Cafodd hyn ei wneud oherwydd bod mwy o boblogrwydd mewn e-feiciau a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 fel llwybr beicio pellter hir.
Lle diogel i feiciau yn yr ysgol
Yn 2024, penderfynodd Cyngor Gwynedd adeiladu cyfleusterau newydd i storio beiciau yn Ysgol Gynradd Cymerau ym Mhwllheli. Cafodd hyn ei wneud oherwydd bod plant yr ysgol ac arweinwyr cymunedol wedi gofyn am fwy o fannau diogel i ddisgyblion storio eu beiciau.
Gwella pont rhwng canol y dref a’r llwybr teithio llesol
Yn 2022, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful adeiladu pont newydd yn cysylltu Llwybr Taf â chanol tref Merthyr Tudful.
Y Prosiect ‘Croesi Pontydd’ - Peintio Pontydd Ar Lwybrau Teithio Llesol Yn Y Barri A Phenarth
Yn 2021, penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg wneud Pont Gladstone yn y Barri a Phont Cogan ym Marina Penarth yn dirnodau nodweddiadol gyda murluniau wedi’u peintio â llaw. Cafodd hyn ei wneud oherwydd bod graffiti’n ymddangos ar y pontydd dro ar ôl tro.
Gwella Llwybr y Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd
Yn 2021/22, ail-aliniodd Rhondda Cynon Taf ran o Lwybr Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd. Roedd hyn mewn ymateb i ddifrod storm sylweddol.
Pont teithio llesol newydd sy’n cysylltu canol y ddinas â Devon Place
Yn 2023, agorodd Cyngor Dinas Casnewydd bont teithio llesol newydd i gysylltu Queensway â Devon Place ger gorsaf drenau Casnewydd.