Pont newydd sy’n cysylltu cymunedau yn Llanelli
Agorodd Pont Phil Bennett yn 2023. Mae'n caniatáu i gerddwyr a beicwyr groesi'r A484 yn ddiogel ac yn rhoi mynediad i'r ganolfan fanwerthu ym Mharc Trostre. Mae'r bont yn cysylltu rhwydwaith ehangach o lwybrau ac yn gwella hygyrchedd yn y dref. Rhwng Tachwedd 2023 a Hydref 2024, cofnodwyd 96,854 o deithiau ar y llwybr. Roedd 16,946 yn feicwyr a 79,908 yn gerddwyr.
Costiodd y bont £1.7 miliwn. Cafodd ei darparu gan Gyngor Sir Gâr a'i hariannu gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru. Cafodd ei henwi ar ôl Phil Bennett, yr arwr rygbi a chwaraeodd fel maswr i Glwb Rygbi Llanelli ac i Gymru.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae'r cyngor yn hynod falch o anrhydeddu Phil Bennett, un o gewri byd rygbi Cymru, drwy ddadorchuddio’r plac newydd hwn er cof amdano. Wrth goffáu Phil Bennett, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i feithrin cymuned sy'n gwerthfawrogi ac yn dathlu ei harwyr chwaraeon."