Gwelliannau i Amddiffyn Arfordirol Llandrillo-yn-Rhos a Theithio Llesol

Amcanion

Yn 2024, cwblhawyd y gwaith o adnewyddu'r promenâd a gwella amddiffynfeydd arfordirol yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae'n enghraifft o sut y gellir cyfuno gwelliannau amgylcheddol a strwythurol â nodweddion creu lleoedd, i greu lle gyhoeddus mwy cynaliadwy, cynhwysol a deniadol.

Yr amcanion oedd:

  • Gwella'r promenâd, gan ei drawsnewid i le gyhoeddus modern, cynaliadwy a deniadol.
  • Uwchraddio'r amddiffynfeydd arfordirol yn sylweddol i roi amddiffyniad hirdymor i'r arfordir a'r amgylchedd, gan sicrhau bod y promenâd a'r dref y tu ôl iddi wedi'u hamddiffyn rhag bygythiadau'r môr yn y dyfodol.

 

Disgrifiad

Roedd elfennau allweddol y prosiect yn cynnwys:

  • Uwchraddio amddiffynfeydd arfordirol gan gynnwys addasiadau i grwyn creigiog yn Harbwr Rhos. Cynlluniwyd y mesurau hyn i amddiffyn y dref a darparu sefydlogrwydd arfordirol hirdymor.
  • Lledu'r promenâd i greu mwy o le i gerddwyr a beicwyr. Roedd yr uwchraddio hefyd yn cynnwys meinciau newydd, llochesi a goleuadau modern.
  • Ychwanegu 56 o blanhigion a 75 o goed.
  • Mannau chwarae newydd i blant, llwybrau beicio ychwanegol a mannau hamdden ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd, tripiau ysgol a gweithgareddau cymunedol eraill.
  • Integreiddio gyda Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gan wneud y darn hwn o arfordir yn gyrchfan fwy deniadol i feicwyr.

Drwy fynd i'r afael ag anghenion esthetig ac amddiffynnol yr arfordir, mae'r prosiect hwn wedi llwyddo i drawsnewid llwybr glan môr sydd heb ei ddefnyddio'n ddigonol i le hwyliog a deniadol.

Gyda hygyrchedd gwell, gwarchodaeth amgylcheddol, a lle i fusnesau lleol, mae'r prosiect yn cynrychioli buddsoddiad gwerthfawr yn nyfodol Llandrillo-yn-Rhos a'r ardaloedd cyfagos.

 

Cost

£760,000. 

 

Gwersi a ddysgwyd

Cyn i'r prosiect ddechrau, roedd y promenâd wedi'i oleuo'n wael, roedd ganddo arwynebau anwastad a llochesi dadfeilio. Arweiniodd yr amodau hyn at yr ardal yn cael ei thanddefnyddio. Yr her oedd uwchraddio'r promenâd gan sicrhau bod y gymuned leol yn teimlo perchnogaeth dros y lle.

Roedd rhaid dylunio'r promenâd i ddarparu ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Fel ateb, mae'r lle ehangach yn sicrhau hygyrchedd i rieni â phramiau, pobl â phroblemau symudedd, ac amrywiaeth o wahanol grwpiau defnyddwyr. Yn ogystal, creuwyd mannau chwarae a mannau hamdden newydd i wneud y promenâd yn lleoliad deniadol i deuluoedd a phobl ifanc.

Er mwyn sicrhau cefnogaeth y gymuned, roedd y contract adeiladu yn cynnwys cymalau a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddi-waith a chyflenwyr lleol ymgysylltu. Cyflogwyd naw o unigolion lleol yn uniongyrchol ar y prosiect, gan elwa o greu swyddi mewn ardal sydd â galw mawr am gyflogaeth. Defnyddiodd y prosiect gyflenwyr lleol yn helaeth hefyd, gan hyrwyddo twf economaidd rhanbarthol a sicrhau bod y gwelliannau o fudd uniongyrchol i'r gymuned leol.

 

Allbynnau

Mae adnewyddu'r promenâd a'r amddiffynfeydd arfordirol wedi darparu nifer o fanteision i'r gymuned leol a'r amgylchedd.

Mae'r amddiffynfeydd arfordirol yn darparu amddiffyniad hirdymor i'r dref rhag bygythiadau erydiad a llifogydd. Mae'r mesurau hyn yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd a'r seilwaith lleol, gan sicrhau bod yr ardal yn parhau i fod yn addas i fyw ynddi ac yn ddeniadol i genedlaethau'r dyfodol.

Cafodd y prosiect effaith economaidd gadarnhaol drwy ymgysylltu gyda gweithwyr a chyflenwyr lleol, felly yn gyfrannu at yr economi leol. Mae trigolion bellach yn gallu mwynhau glan y môr mewn modd diogel a hygyrch. Yn ogystal, disgwylir i'r promenâd gwell ddenu mwy o ymwelwyr, gan hybu busnesau lleol a thwristiaeth.

Nodyn: Mae lleoliadau cyfrif teithio llesol parhaol ar waith i fonitro newidiadau mewn siwrneiau cerddwyr a beicwyr ar hyd y llwybr hwn. Bydd yr astudiaeth achos yn cael ei diweddaru unwaith y bydd data 2024/25 yn cael ei dderbyn.

 

Cyswllt

activetravel@tfw.wales