Lle diogel i feiciau yn yr ysgol

Yn 2024, penderfynodd Cyngor Gwynedd adeiladu cyfleusterau newydd i storio beiciau yn Ysgol Gynradd Cymerau ym Mhwllheli. Cafodd hyn ei wneud oherwydd bod plant yr ysgol ac arweinwyr cymunedol wedi gofyn am fwy o fannau diogel i ddisgyblion storio eu beiciau.

Dyma oedd y nodau:

  • cynyddu faint o lefydd diogel a chysgodol sydd ar gael i storio beiciau yn Ysgol Cymerau.
  • cefnogi’r duedd ehangach o blant yn beicio i’r ysgol yng Ngwynedd.

 

Disgrifiad

Roedd Ysgol Cymerau yn 5ed yng Nghymru yn ystod Stroliwch a Roliwch 2024, gyda mwy na 80% o ddisgyblion yn cymryd rhan.

Roedd swyddogion y cyngor wedi cwrdd â phennaeth ac ysgrifennydd yr ysgol, yn ogystal â chynrychiolwyr Sustrans i ystyried sut i gynyddu faint o lefydd storio beiciau sydd ar gael.

Roeddent yn cytuno mai cyfleusterau storio diogel dan do wrth ymyl mynedfa’r ysgol fyddai’r dewis gorau.

 

Gwersi a ddysgwyd

  • Roedd y cydweithio rhwng y cyngor, yr ysgol a Sustrans yn allweddol i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus.
  • Mae gan staff Ysgol Cymerau ymrwymiad cryf i gefnogi mentrau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cerdded ac yn beicio i’r ysgol, e.e. y ‘bws beicio’.
  • Mae disgyblion Ysgol Cymerau yn frwd dros gerdded a beicio i’r ysgol. 

 

Cost

  • Ychydig yn llai na £26,500 oedd cost y cynllun.

 

Allbynnau

Mae modd storio 10 beic ym mhob lloches yn y cyfleusterau storio newydd, felly mae digon o le ar gyfer 30 beic.

Mae lloches i sgwteri wedi cael ei hadeiladu hefyd, sy’n gallu storio 20 o sgwteri.

 

Cycle storage

Cycle storage

Mannau storio beiciau.

 

Scooter shelter

Lloches ar gyfer sgwteri.

 

Cysylltwch â:

activetravel@tfw.wales