Croesawu e-feiciau ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5
Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddarparu cyfleusterau storio beiciau trydan gyda mannau gwefru a standiau cynnal a chadw mewn lleoliadau allweddol ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 5. Cafodd hyn ei wneud oherwydd bod mwy o boblogrwydd mewn e-feiciau a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 fel llwybr beicio pellter hir.
Dyma oedd y nodau:
- cefnogi beicwyr sy’n defnyddio e-feiciau ar gyfer gwaith neu hamdden.
- cefnogi teithio llesol mwy gwyrdd fel rhan o ymrwymiad y cyngor i sicrhau bod Conwy yn dod yn garbon sero net erbyn 2030.
Disgrifiad
Roedd y cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer stondinau storio, gwefru a chynnal a chadw e-feiciau. Nodwyd lleoliadau addas ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 ger y cyflenwadau pŵer presennol.
Er mwyn helpu i gadw beiciau’n ddiogel, cafodd standiau cadarn eu hadeiladu gyda phwyntiau gwefru sy’n galluogi’r batri i gael ei gloi’n ddiogel yn y man gwefru. Er mwyn helpu beicwyr i gynnal eu beiciau, cafodd pecynnau cymorth eu hychwanegu gyda set o allweddi hecs, sgriwdreifers, tyndro, lifer teiars, pwmp teiars a medrydd PSI.
Allbynnau
Mae deg stand e-feiciau wedi cael eu hadeiladu ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 5. Mae’r rhain ar gael yng Nghonwy, Bae Cinmel, Llandudno, Llanfairfechan, Hen Golwyn, Penmaenmawr, Bae Penrhyn, Pensarn a Llandrillo yn Rhos.
Mae’r prosiect wedi cael adborth cadarnhaol ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Canolfan Ddiwylliant Conwy
Penmaenmawr
Llandrillo yn Rhos