Gwella Llwybr y Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd

Nodau

Yn 2021/22, ail-aliniodd Rhondda Cynon Taf ran o Lwybr Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd. Roedd hyn mewn ymateb i ddifrod storm sylweddol.

Dyma oedd y nodau:

  • gwella diogelwch cerddwyr a beicwyr.
  • annog mwy o bobl i gerdded, beicio a defnyddio olwynion.
  • hyrwyddo mynediad i gymunedau lleol. 

 

Disgrifiad

Roedd y llwybr rhwng Trallwn a Chilfynydd ar hyd Llwybr Taf yn dueddol o ddioddef llifogydd ac roedd hyn yn aml yn arwain at gau’r llwybr. Daeth yn angenrheidiol darparu llwybr gwell i sicrhau diogelwch a hyrwyddo mynediad i gerddwyr a beicwyr. Penderfynwyd ar leoliad y llwybr newydd a gwell gyda chymorth ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Fe wnaeth y prosiect (a ariannwyd gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru) ddarparu llwybr tri metr o led wedi’i adeiladu ar dir uwch gyda llai o berygl llifogydd, gan gydymffurfio â’r Canllawiau Dylunio Teithio Llesol presennol. Mae’r prosiect yn barhad o waith y cyngor i wella llwybrau ar hyd Llwybr Taf. Ail-agorodd y llwybr i’r cyhoedd ar 18 Mawrth 2022, ac mae’n darparu dolen o Gilfynydd i bont droed Nant Cae Dudwg a gafodd ei huwchraddio yn 2019/20.

 

Gwersi a ddysgwyd

Drwy weithio gyda rhanddeiliaid allanol, fel Sustrans, sicrhawyd bod y prosiect o safon uchel gyda strategaethau hyrwyddo ac ymgynghori llwyddiannus.

Cymerodd fwy o amser na’r disgwyl i glirio’r safle, ac mae angen ystyried hyn mewn amserlenni ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Roedd mynediad tir i lesddeiliaid yn gymhleth. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, mae’r awdurdod lleol wedi rhoi polisïau ar waith i hwyluso’r broses hon.

Roedd y costau’n fwy na’r cyllid. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol yn gweithio gyda TrC i fynd i’r afael ag effaith chwyddiant a phroblemau’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi.

 

Allbynnau

Mae’r llwybr gwell rhwng Trallwn a Chilfynydd wedi creu gwell mynediad i gymunedau lleol ac wedi diogelu rhan o Lwybr Taf sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth. Fe wnaeth ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol â’r cyhoedd sicrhau bod y llwybr newydd yn diwallu anghenion cymunedau lleol. Cafodd y prosiect dderbyniad da ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr awdurdod lleol ac mae’n gyfle i annog mwy o bobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio olwynion ar eu teithiau bob dydd.

Roedd y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor i roi gwybod i’r cyhoedd am y gwaith a oedd yn dechrau ac yn gorffen. Cafodd fideo yn dangos y llwybr wedi’i gwblhau hefyd ei gynnwys yn y datganiad i’r wasg.

Mae data monitro yn dangos bod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu ers i’r llwybr gael ei ailagor.

 

 

Taff Trail before

Taff Trail before

Yr hen lwybr ar ôl storm

 

Taff Trail after (in use)

Aliniad newydd y llwybr