Gwella pont rhwng canol y dref a llwybr teithio llesol hanesyddol

Yn 2022, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wella’r seilwaith a oedd yno ac adeiladu pont newydd yn cysylltu Llwybr Taf â chanol tref Merthyr Tudful.

Dyma oedd y nodau:

  • adeiladu pont newydd yn Rhyd-y-car i hyrwyddo teithio llesol rhwng canol tref Merthyr Tudful a llwybr Taf.
  • caniatáu i bobl ddefnyddio’r bont ar gyfer cerdded, olwynio a beicio.

 

Disgrifiad

Penderfynodd y cyngor fod angen codi pont newydd ar draws Afon Taf yn Rhyd-y-car. Nodwyd bod hwn yn gyswllt pwysig rhwng Llwybr Taf a chanol tref Merthyr Tudful ar gyfer beicwyr a cherddwyr, ond roedd y strwythur presennol yn rhy gul (1.5 metr) i alluogi cyd-ddefnydd.

Cytunodd y cyngor i adeiladu pont newydd 3.5 metr o led, a’i gosod ymhellach tua’r gogledd er mwyn i’r hen bont gadw ar agor tra’r oedd y llwybrau’n cael eu dargyfeirio.

Ychwanegwyd palmant newydd i gymryd lle’r man croesi blaenorol gyferbyn â’r hen bont. Cafodd croesfan blaenoriaeth lydan newydd ei hychwanegu ymhellach tua’r gogledd i roi llinell mwy unionsyth ar gyfer llwybrau teithio llesol o Bont Rhyd-y-car i gyrchfannau allweddol.

Roedd y gwaith a gafodd ei gwblhau cyn adeiladu’r bont hefyd yn cynnwys asesiadau risg llifogydd, adroddiad ecoleg a dargyfeirio gwaith dŵr. Roedd yn rhaid tynnu rhai coed a llwyni i warchod adar sy’n nythu, gan y byddai’r gwaith wedi effeithio arnynt.

 

Costau

Cyfanswm cost y cynllun oedd £1,039,722.00.

 

Gwersi a ddysgwyd

Roedd y costau’n llawer uwch na’r disgwyl, felly roedd yn rhaid i’r cyngor ddad-gwmpasu’r cynllun. Yn y pen draw roedd y cyngor wedi cyflawni’r cwmpas gwreiddiol dros gyfnod o ddwy flynedd. Blwyddyn Un - dylunio a gosod y bont newydd a’r pentanau. Blwyddyn Dau - adeiladu’r cysylltiadau, dargyfeirio cyfleustodau a thynnu’r hen bont.

Ni ragwelwyd lleoliad tanlwybr ar y safle, felly roedd yn rhaid symud y bont newydd ychydig ymhellach tua’r gogledd, gan arwain at newid bach yn y dyluniad.

Roedd heriau o ran dod o hyd i gontractwr lleol i ymrwymo i’r prosiect, a bu’n rhaid i’r cyngor ddefnyddio cwmni yn Amwythig (Beaver Bridges).

Roedd digwyddiadau fel hanner marathon Merthyr a ras y parc (bob dydd Sadwrn) wedi parhau i gael eu cynnal yn ystod y cyfnod adeiladu. Bu’n rhaid i Lwybr Taf aros ar agor, heblaw pan oedd angen i gerbydau fynd i mewn ac allan o’r safle.

 

Allbynnau

Roedd Pont Rhyd-y-car wedi’i chwblhau ar amser. Roedd lled y bont wedi cynyddu’n sylweddol o’i gymharu â’r hen strwythur, ac mae hyn wedi galluogi mwy o bobl i’w defnyddio ar unwaith.

Mae’r prosiect wedi sbarduno cynlluniau i ddatblygu pont gerdded a beicio arall, sef Pont Clastir. Bydd y bont yma’n cael ei gosod i’r gogledd o Bont Rhyd-y-car, gyferbyn â’r coleg.

Mae’r prosiect wedi rhoi hwb newydd i ddathlu Merthyr Tudful a Llwybr Taf gerllaw, fel cyrchfannau dymunol y mae modd eu cyrraedd drwy deithio llesol, ac fel pyrth i Fannau Brycheiniog.

 

Llun o hen bont Rhyd-y-car cyn gwneud unrhyw waith.

Llun o hen bont Rhyd-y-car cyn gwneud unrhyw waith.

 

Llun o bont newydd Rhyd-y-car.

Llun o bont newydd Rhyd-y-car.

 

Gosod y bont newydd.

Gosod y bont newydd.

 

Tynnu’r hen bont.

Tynnu’r hen bont.

 

Fideo

 

Cysylltwch â:

activetravel@tfw.wales