
Creu lle diogel i gerdded, beicio a sgwtera i'r ysgol
Yn 2023, adeiladodd Cyngor Torfaen lwybr 180 metr o hyd newydd o Court Farm Road i Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam. Roedd hyn yn rhan o Rwydwaith Teithio Llesol ehangach yn Oakfield, Cwmbrân.
Y nodau oedd:
- Annog newid mewn ymddygiad a chynyddu’r nifer o ddisgyblion, staff a rhieni sy’n defnyddio dulliau teithio llesol.
- Helpu i wella iechyd a lles disgyblion, staff a rhieni.
- Lleihau tagfeydd ceir.
Disgrifiad
Defnyddiwyd y Cynllun Teithio Llesol i Ysgolion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam i ddarganfod y rhwystrau rhag defnyddio dulliau teithio llesol i fynd i’r ysgol. Mae'r Cynllun Teithio Llesol i Ysgolion yn cynnwys:
- Arolygon Dwylo i Fyny: casglu data ar gyfer y llwybrau Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl).
- Arolygon rhieni: deall sut maen nhw'n dewis teithio i'r ysgol a pham.
- Gwasanaethau ynglŷn â theithio llesol.
- Cynlluniau gwersi sy'n ymwneud â theithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6.
Mae'r Cynllun Teithio Llesol i Ysgolion wedi bod yn ddefnyddiol wrth amlygu anghenion cymuned yr ysgol. Dadansoddwyd y data a gasglwyd yn erbyn llwybrau Map Rhwydwaith Teithio Llesol yr awdurdod lleol. Ymdriniwyd ag unrhyw broblemau a nodwyd ar unwaith neu cawsant eu nodi er mwyn llywio cyllid posibl yn y dyfodol. Datgelwyd rhai heriau, gan gynnwys tagfeydd o flaen yr ysgol a'r angen i ddarparu mynediad ychwanegol i'r ysgol.
Trwy weithio'n agos gyda Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r Gronfa Teithio Llesol, roedd cais y cyngor i ddarparu mynediad ychwanegol i'r ysgol yn llwyddiannus. Sicrhaodd y cyngor gyllid gan Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Cost
Cyfanswm cost y cynllun oedd £159,500.
Gwersi a ddysgwyd
- Roedd cydweithio rhwng y cyngor a'r ysgol yn allweddol i gyflawni Cynlluniau Teithio Llesol i Ysgolion yn llwyddiannus a datblygu llwybrau teithio llesol sy'n fwy diogel ac yn fwy pleserus i bawb eu defnyddio.
- Mae mwy o ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yn cerdded, beicio a sgwtera i'r ysgol.
Canlyniadau
Mae'r llwybr newydd a mynedfa newydd yr ysgol wedi cyfrannu'n llwyddiannus at gynnydd yn nifer y disgyblion a'r rhieni sy'n cerdded, beicio a sgwtera i’r ysgol ac oddi yno bob dydd.
Mae nifer y cyfleusterau parcio beiciau a sgwteri yn yr ysgol wedi cynyddu. Mae'n llawn bob dydd.
Mae Traciwr Teithio WOW - sy’n mesur sut mae disgyblion yn teithio i'r ysgol - yn dangos mai cyfradd teithio llesol yr ysgol yw 71%.