Ymgysylltu â phobl ifanc - Coleg Castell-nedd Port Talbot

Nodau

Ymwelodd Tîm Teithio Llesol TrC â Choleg Castell-nedd Port Talbot ym mis Tachwedd 2024 i gynnal sesiwn ymgysylltu â myfyrwyr ynglŷn â’u dewisiadau teithio.

Y nodau oedd:

  • Dangos pwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifanc.
  • Profi negeseuon allweddol yn y canllaw 'Ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn gwella teithio llesol'.
  • Tynnu sylw at arfer da o ran sut i gasglu adborth gan bobl ifanc.

 

Disgrifiad

Mae TrC wedi creu canllaw i awdurdodau lleol ei ddefnyddio wrth ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn hyrwyddo teithio llesol.

I brofi negeseuon allweddol y canllaw ac i dynnu sylw at arfer da, cynlluniodd a chyflwynodd y tîm sesiwn ymgysylltu i fyfyrwyr 16-24 oed.

Daeth 17 o fyfyrwyr i'r gweithdy a chawsant eu rhannu'n bedwar grŵp. Roedd gan bob grŵp ddarnau bach o bapur gludiog lliwiau gwahanol ac 11 darn o bapur A3, pob un yn cynnwys rhif cwestiwn.

Darparodd y tîm gyflwyniad PowerPoint yn cynnwys 11 cwestiwn yn ymwneud â'r cynnwys yn y canllaw. Trafododd y myfyrwyr a chofnododd eu hatebion ar bapur A3 gan ddefnyddio'r darnau o bapur gludiog a ddarparwyd.

Wrth i'r sesiwn fynd yn ei blaen, roedd myfyrwyr yn teimlo'n fwy hyderus i ofyn cwestiynau ac i ymgysylltu â'r grŵp ehangach. Fe wnaethom ddarparu nwyddau TrC i'r myfyrwyr fel gwobr am gymryd rhan.

 

Adborth myfyrwyr

Dywedodd myfyrwyr mai ystyr teithio llesol oedd "teithio llawer", "symud yn gorfforol", "teithio cyflym a hawdd" gan gyfeirio at drafnidiaeth gyhoeddus a cheir. Disgrifiodd un myfyriwr teithio llesol fel "teithio sy'n ymwneud â cherdded i/cyrraedd dull trafnidiaeth arall."

Nid oedd myfyrwyr yn gwybod ystyr teithio llesol. Mae hyn yn awgrymu y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wrth hyrwyddo teithio llesol yn cael ei theilwra at y gynulleidfa y maent yn ymgysylltu â hi. Er enghraifft, gall defnyddio 'cerdded, olwynio a beicio' olygu bod mwy o bobl yn deall negeseuon ac ymgyrchoedd.

 

Ffigur 1: Siart bar sy'n dangos y math o drafnidiaeth y mae myfyrwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer teithiau bob dydd.

Mae Ffigur 1 yn siart bar sy'n dangos bod: 17 myfyriwr yn gyrru | 13 myfyriwr yn cerdded/olwynio | 8 myfyriwr yn teithio ar y bws | 6 myfyriwr yn teithio ar y trên | 0 myfyrwyr yn beicio

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teithio mewn car ar gyfer eu teithiau bob dydd, yna cerdded/olwynio oedd yr ail ddull mwyaf poblogaidd. Mae hyn yn dangos bod cerdded yn rhywbeth y gall awdurdodau lleol ganolbwyntio arno wrth wella teithio llesol i bobl ifanc.

Rhesymau dros ddewisiadau teithio:

  • Car: hawdd, cyflym, rhad, dim dewis arall oherwydd pellter, rhannu lifftiau yn y car, wedi arfer â theithio yn y car, cost trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Trên: Ddim yn gallu gyrru, cyfleus, cyflym.
  • Bws: Ddim yn gallu gyrru, cyfleus.
  • Cerdded: hawdd, nid oes angen dibynnu ar unrhyw beth/unrhyw un.

Ffactorau sy'n atal myfyrwyr rhag cerdded neu olwynio ar gyfer eu teithiau bob dydd:

  • Pellter.
  • Amser.
  • Tywydd.
  • Mae trafnidiaeth gyhoeddus a theithio yn y car yn gyflymach.
  • Arfer.

Ffactorau sy'n atal myfyrwyr rhag beicio ar gyfer eu teithiau bob dydd:

  • Diffyg lleoedd i barcio beiciau’n ddiogel ac ofn y bydd beic yn cael ei ddifrodi neu ei ddwyn.
  • Diffyg hyder a ddim yn teimlo'n ddiogel.
  • Ddim yn gallu reidio beic.
  • Ddim yn berchen ar feic, a chost prynu beic.
  • Mae'r beic wedi torri neu'n hen.
  • Pellter.
  • Tywydd.
  • Arfer.

Ffactorau a fyddai'n annog myfyrwyr i gerdded, olwynio neu feicio mwy ar gyfer eu teithiau bob dydd:

  • Cymhellion ar gyfer cerdded a beicio mwy e.e. prisiau gostyngol/talebau ar gyfer bwyd a diod, yn enwedig yn y coleg.
  • Gwella diogelwch beicio ar y ffyrdd.
  • Lonydd/llwybrau beicio gwell.
  • Lle i barcio beiciau’n ddiogel.
  • Teithio gyda ffrindiau.

 

Ffigur 2: Siart bar sy'n dangos negeseuon allweddol a fyddai'n annog myfyrwyr i gerdded, olwynio neu feicio mwy.

Mae Ffigur 2 yn siart bar sy'n dangos: Pleidleisiodd 13 o fyfyrwyr o blaid arbed arian. | Pleidleisiodd 5 myfyriwr o blaid iechyd meddwl. | leidleisiodd 3 myfyriwr o blaid ffactorau amgylcheddol. | Pleidleisiodd 2 fyfyriwr o blaid mynediad at gyfleoedd | Pleidleisiodd 2 fyfyriwr o blaid ymarfer corff. | Pleidleisiodd 1 disgybl o blaid natur.

Gwnaethom ofyn i fyfyrwyr a oeddent yn ymwybodol o'r cynlluniau arbed arian canlynol:

  • My Travel Pass 
  • Cerdyn Saver 16-17
  • Cerdyn Rheilffordd 16-25.

Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr (53%) yn ymwybodol o Fy Ngherdyn Teithio drwy'r coleg. Roedd llai yn ymwybodol o’r cerdyn Saver 16-17 (29%) a’r Cerdyn Rheilffordd 16-25 (29%). Pleidleisiodd 16 o bob 17 o fyfyrwyr o blaid ‘Teithio rhatach i bobl ifanc' fel yr ymgyrch fwyaf dylanwadol. Mae hyn yn awgrymu bod hyrwyddo cynlluniau arbed arian yn ddefnyddiol wrth hyrwyddo teithio llesol ar y cyd â defnydd trafnidiaeth gyhoeddus. Pleidleisiodd 16 o bob 17 o fyfyrwyr o blaid 'Teithio rhatach i bobl ifanc' fel yr ymgyrch fwyaf dylanwadol.

Cyfryngau cymdeithasol yw'r prif blatfform y mae myfyrwyr yn ei ddefnyddio i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned. Byddai'n well gan fyfyrwyr gymryd rhan trwy arolygon neu gyfryngau cymdeithasol.

 

Ffigur 3: Siart bar sy'n dangos sut mae myfyrwyr yn darganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned.

Mae Ffigur 3 yn siart bar sy'n dangos y canfyddiadau canlynol: Mae 17 o fyfyrwyr yn darganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned trwy gyfryngau cymdeithasol. | Mae 13 o fyfyrwyr yn darganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned ar dafod leferydd. | Mae 2 fyfyriwr yn darganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned drwy fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb. | Mae 2 fyfyriwr yn darganfod beth sy'n digwydd yn eu cymuned drwy wylio'r newyddion.

Mae myfyrwyr yn hoffi rhoi eu barn trwy arolygon (94%), cyfryngau cymdeithasol (88%) a digwyddiadau wyneb yn wyneb (41%).

 

Gwersi a ddysgwyd

  • Byddai gweithio gyda cholegau, prifysgolion a gweithleoedd i ddarparu cymhellion ar gyfer cerdded a beicio yn annog pobl ifanc i deithio'n fwy cynaliadwy.
  • Awgrymodd rhai myfyrwyr y byddai teithio gyda ffrindiau yn eu hannog i gerdded/olwynio neu feicio mwy. 
  • Dywedodd chwe myfyriwr y byddent yn beicio mwy pe bai diogelwch beicio ar ffyrdd yn well, gan gynnwys mwy o lwybrau beicio a chyfleusterau parcio beiciau’n ddiogel.

 

Canlyniadau

  • Defnyddiwyd y data a gasglwyd i wella ein canllaw 'Ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn gwella teithio llesol.'

 

Myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot | Students at Neath Port Talbot College

Myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot

 

Myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot | Students at Neath Port Talbot College

Myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot

 

Cyswllt:

activetravel@tfw.wales