Pont teithio llesol newydd sy’n cysylltu canol y ddinas â Devon Place
Yn 2023, agorodd Cyngor Dinas Casnewydd bont teithio llesol newydd i gysylltu Queensway â Devon Place ger gorsaf drenau Casnewydd.
Nodau
Dyma oedd y nodau:
- darparu croesfan fwy diogel a chyfleus dros y rheilffordd
- gwella hygyrchedd cerdded, olwynio a beicio
Disgrifiad
Mae’r bont newydd yn disodli hen danlwybr, gan roi llwybr cyswllt sy'n fwy diogel a hygyrch i drigolion ac i ymwelwyr groesi’r brif reilffordd. Mae’r bont wedi cael ei hadeiladu yn unol â safonau teithio llesol, sy’n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, beicwyr a cherddwyr ei defnyddio. Mae wedi cael ei hariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys palmantau gwell o amgylch yr hyb trafnidiaeth ac mae’n cynnwys nodweddion draenio cynaliadwy sy’n dal dŵr glaw ac yn ei ddargyfeirio i’r potiau planhigion sydd newydd gael eu gosod.
Dyma’r darn diweddaraf o seilwaith teithio llesol sydd wedi cael ei gwblhau yng Nghasnewydd, yn dilyn gwaith adnewyddu i lwybrau teithio llesol yng Nghoed Melyn, Parc Tredegar a Bryngaer Croes Trelech.
Gwersi a ddysgwyd
Mae darparu’r bont wedi bod yn brosiect cymhleth, gyda nifer o heriau i’w goresgyn, gan gynnwys gweithio dros reilffordd wedi’i thrydaneiddio, gweithio o dan yr orsaf ac yn yr hen danlwybr.
Mae’r heriau hyn wedi cael eu goresgyn drwy ymdrechion cydweithredol nifer o bartïon. Y cyngor oedd yn arwain y prosiect, mewn partneriaeth â Network Rail a Trafnidiaeth Cymru. Cafodd tîm y cyngor ei gefnogi gan Arup, Grimshaw a Corderoy o ran y gwaith dylunio a rheoli prosiect.
Nodiadau eraill
Alun Griffiths Ltd oedd y prif gontractwyr, a Cass Hayward oedd yn arwain gwaith dylunio’r bont, a chafodd y gwaith creu a gosod ei wneud gan Pro Steel o Bont-y-pŵl.
Allbynnau
Mae’r bont newydd wedi gwella’r cysylltiadau rhwng Devon Place a Queensway, gan ddarparu llwybr mwy diogel a chyfleus i drigolion lleol ac ymwelwyr i groesi’r rheilffordd. Mae’r bont newydd wedi cael ei hadeiladu yn unol â safonau teithio llesol er mwyn caniatáu mynediad hawdd er mwyn cerdded, olwynio a beicio.
Mae gwaith monitro’n cael ei wneud, ac ar gyfartaledd mae 539 o siwrneiau cerdded dros y bont bob dydd a 47 o siwrneiau beicio.