Y Prosiect ‘Croesi Pontydd’ - Peintio Pontydd Ar Lwybrau Teithio Llesol Yn Y Barri A Phenarth
Nodau
Yn 2021, penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg wneud Pont Gladstone yn y Barri a Phont Cogan ym Marina Penarth yn dirnodau nodweddiadol gyda murluniau wedi’u peintio â llaw. Cafodd hyn ei wneud oherwydd bod graffiti’n ymddangos ar y pontydd dro ar ôl tro.
Dyma oedd y nodau:
- gwneud y pontydd yn fwy deniadol.
- annog mwy o bobl i gerdded neu feicio ar hyd y llwybrau teithio llesol presennol ym Marina Penarth ac ar Lannau’r Barri.
- gweithio tuag at gyflawni nodau Prosiect Sero drwy annog mwy o deithio llesol.
Disgrifiad
Roedd y prosiect (a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru) wedi cymryd 8 mis i’w gwblhau. Gofynnwyd am ganiatâd gan dîm strwythurau mewnol y Cyngor, a chafodd cytundeb ei wneud gyda Network Rail oherwydd bod y safleoedd mor agos at y rheilffyrdd.
Roedd y Swyddog Teithio Llesol a’r Tîm Creu Lleoedd wedi gweithio gyda’i gilydd i ysgrifennu Briff i’r Artist. Cyhoeddwyd y briff yng nghylchlythyr Cyngor Celfyddydau Cymru a’r wasg leol. Roedd 19 artist wedi ymateb i’r briff, a chafodd tri o’r artistiaid hynny eu gwahodd am gyfweliad.
Roedd yr artist llwyddiannus, Katrina Adams, wedi trefnu gweithdy cydweithredol gyda thrigolion lleol i greu murlun a oedd yn taro tant â’r gymuned. Mae’r murluniau terfynol yn cynnwys siapiau a lliwiau sy’n cynrychioli tirnodau, treftadaeth, pensaernïaeth a mapiau o’r ddau leoliad. Er enghraifft, mae dyluniad Pont Gladstone yn cynnwys lliwiau glas Llyn Knap, a bwâu rheilffordd Traphont Porthceri. Cafodd y lliwiau eu dewis hefyd i fod yn debyg i balet lliw Y Barri - Creu Tonnau.
Gwersi a ddysgwyd
Roedd angen i unrhyw baent newydd fod yr un fath neu’n debyg i’r paent a gafodd ei ddefnyddio ar Bont Gladstone.
Roedd pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar gyflenwad y paent gwreiddiol, felly cafwyd o hyd i system diogelu paent debyg yn gyfnewid am hynny.
Oherwydd gwenwyndra’r paent (a’r ffaith bod y safle mor agos at y rheilffordd), roedd angen i’r gwaith peintio gael ei wneud gan Swansea Painters, sy’n gontractwyr peintio proffesiynol.
Parhaodd Katrina i fod yn rhan fawr o’r broses drwy gynhyrchu print sgrin cywir ar raddfa ar gyfer y 120 metr o waliau’r bont, a marcio’r dyluniadau gyda Sharpie gwahanol liw fel canllaw i’r peintwyr o Abertawe.
Roedd yn rhaid i’r adran Cynnal a Chadw Priffyrdd roi trwydded ar gyfer uned lles ar y briffordd, a chau troedffyrdd wrth i’r pontydd gael eu peintio.
Cost
£19,300 oedd cyfanswm cost y prosiect, a oedd yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- £4,000 i’r artist (dyluniad y murlun, digwyddiadau gweithdy, print sgrin cywir ar gyfer y bont 120 metr, dyluniadau wedi’u marcio ar y pontydd er mwyn i’r peintwyr eu dilyn).
- £18,900 i lanhau pontydd yn y lle cyntaf a mân atgyweiriadau, peintio’r dyluniad a gorchuddio’r pontydd gyda phaent gwrth-graffiti.
Allbynnau
Mae’r paent gwrth-graffiti wedi bod yn llwyddiant o ran cael gwared ar ddarnau bach o graffiti.
Mae gan swyddogion awdurdodau lleol adroddiadau anecdotaidd o adborth cadarnhaol ar brofiad defnyddwyr.
Pont Gladstone, Y Barri
Cafodd graffiti a rhwd eu tynnu oddi ar waliau’r bont, a chafodd y waliau eu glanhau gan adran lanhau’r Cyngor. Cafodd y waliau eu paratoi ymlaen llaw, ac roedd isbaent wedi’i roi arnynt. Aeth yr Artist ati i fapio ei dyluniad.
Y lliw cyntaf wedi’i gwblhau.
Rhagor o liwiau wedi’u hychwanegu.
Y canlyniad - murlun disglair a chroesawgar i bawb gael ei fwynhau.
Pont Cogan, Penarth
Cafodd graffiti ei dynnu oddi ar wal y bont, a chafodd y wal ei glanhau gan adran lanhau’r Cyngor.
Y broses ddylunio yn dangos sut mae lliwiau a siapiau yn cynrychioli tirnodau, treftadaeth a phensaernïaeth lleol.
Y canlyniad - murlun disglair a chroesawgar i bawb gael ei fwynhau.