Rydym yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol i sicrhau bod datblygiadau trafnidiaeth yn ymgynghori â chymunedau lleol ac yn eu cynnwy

Rydym wedi ymrwymo i greu rhwydwaith o dalent cartref yng Nghymru sy’n addo cadw’n cymunedau i ffynnu. Rydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr i sicrhau’r buddsoddiad gorau posibl yn sgiliau, datblygiad a llesiant eu staff a’u cyflenwyr.

Pan fyddwn ni’n prynu nwyddau a gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau, rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth am arian ac yn manteisio ar y cyfle i sicrhau manteision ehangach i bobl, yr economi a’r amgylchedd. Mae’r dull hwn o gaffael yn gynaliadwy a moesegol yn ceisio bodloni’r canllawiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Rydym yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol i sicrhau bod datblygiadau trafnidiaeth yn ymgynghori â chymunedau lleol ac yn eu cynnwys. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch caffael a gwneud defnydd cymdeithasol a chymunedol gwell o orsafoedd.

Fel rhan o’n Cynllun Datblygu Cymdeithasol a Masnachol Gorsafoedd, rydyn ni wedi penodi Llysgenhadon Cymunedol i gysylltu â rhwydwaith ehangach o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol. Maen nhw’n ymgysylltu â chymunedau lleol i ddod o hyd i brosiectau i roi gwedd newydd i safleoedd segur.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnwys mudiadau gwirfoddol a mudiadau nid-er-elw yn ein proses gaffael. Rydyn ni hefyd wedi cynnal digwyddiadau i gyflenwyr gyda Busnes Cymdeithasol Cymru, ac rydyn ni’n gweithio i sicrhau y bydd cyfleoedd yn parhau i fod ar gael i fentrau cymdeithasol. Bydd ein gwaith caled i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull integredig yng Nghymru yn parhau i ddarparu cyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn lleol.

 

Cyfleoedd y Dyfodol

Am fanylion contractau i ddod, ewch i GwerthwchiGymru.