
Tref hynafol yng Ngorllewin Cymru yw Caerfyrddin, ac mae’n dal i groesawu ymwelwyr i fwynhau ei threftadaeth a’i hanes cyfoethog.
Mae Caerfyrddin ar lan afon Tywi, a dywed rhai mai hon yw’r dref hynaf yng Nghymru. Mae’n ddigon rhwydd dod i’r dref ar y trên gyda TrC.
Teithio i Gaerfyrddin ar drên
Mae gorsaf drenau Caerfyrddin dros 100 oed. Heddiw, mae’n croesawu bron i hanner miliwn o deithwyr bob blwyddyn. Mae trenau’n teithio i Gaerfyrddin o bob cwr o Gymru a’r gororau. Rydym wedi dewis ychydig o lwybrau isod.
Pam mynd i Gaerfyrddin ar y trên?
Pan fyddwch chi’n teithio i Gaerfyrddin ar drên, byddwch chi’n cyrraedd wedi ymlacio ac yn barod i grwydro heb orfod poeni am ddod o hyd i le parcio.
P’un ai’r farchnad hynafol sydd dros 800 oed sydd o ddiddordeb i chi, neu a ydych chi’n gobeithio mwynhau yn yr awyr agored, mae’r cyfan yng Nghaerfyrddin. Darganfyddwch rai o’r pethau gorau i’w gwneud yng Nghaerfyrddin. Mae rhywbeth i bawb, boed fel cwpl neu fel teulu.
-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-