Teithiwch ar y trên i Fangor
Mae Bangor yn ddinas gadeiriol yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Hon yw'r ddinas hynaf yng Nghymru.
Mae gan Fangor gyfoeth o hanes ac mae'n cynnig ystod amrywiol o weithgareddau i ymwelwyr. P'un a ydych yn mwynhau llenyddiaeth, natur neu ddiwylliant lleol, mae rhywbeth at ddant pawb.
Pethau i'w gweld
Llwybr Llechi Eryri - Lleolir Bangor yn Nhirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae'r llwybr yn dechrau ym Mangor, gyda'r rhan gyntaf rhwng Bangor a Bethesda yn gyflwyniad gwych i dreftadaeth lechi'r ardal.
Pier y Garth - Mae'n ymestyn bron i chwarter milltir allan i'r môr gyda golygfeydd ysblennydd i fyny ac i lawr y Fenai ar draws i Ynys Môn.
Teithio i Fangor ar drên
Mae teithio i Fangor ar drên yn hawdd. Mae gwasanaethau’n cyrraedd o bob cwr o Gymru a’r Deyrnas Unedig.
Mae rhai o’n llwybrau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:
Manceinion Piccadilly i Fangor
Teithio Dosbarth Cyntaf i Fangor
Rydyn ni’n galw ym Mangor ar ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi. Mae tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael rhwng Bangor a rhai lleoliadau. Cliciwch yma i weld a yw’r rhain ar gael ar gyfer eich taith.
Beth am roi gwledd i chi eich hun ar eich taith i Fangor? Mae ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol sy’n cael eu gweini gan ein staff cyfeillgar a chroesawgar.
Gallwch brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar ein ap a’n gwefan, o swyddfa docynnau eich gorsaf neu o beiriannau tocynnau.

-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-