Bangor yw dinas hynaf Cymru, ceir yno hanes cyfoethog a mannau gwyrdd godidog ochr yn ochr â thref fodern. Yn teithio o Fanceinion i Fangor? Mae ein gwasanaeth trên yn eich galluogi i gyrraedd gan deimlo’n ffres, yn hamddenol ac yn barod am antur.
Faint o amser mae’r trên o Fanceinion i Fangor yn ei gymryd?
Mae’n cymryd tua 2 awr ac 16 munud ond gall gymryd mwy o amser yn dibynnu ar y newidiadau. Mae mynd ar y trên yn eich galluogi i ymlacio a threulio amser gyda’ch anwyliaid os ydych chi’n mynd am benwythnos i fwynhau byd natur a hanes, neu i wneud ychydig o waith os ydych chi’n mynd ar daith fusnes.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa docynnau sydd ar gael?
Llwythwch i lawr ein ap symudol hawdd ei ddefnyddio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynigion arbennig, gan gynnwys ein tocynnau Advance neu Adegau tawel. Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn rheilffordd i gael gostyngiadau. Mae’r gostyngiadau hyn yn gadael digon o arian yn eich waled ichi fwynhau eich diwrnod. Os ydych chi’n brin o amser, gallwch brynu eich tocynnau yng ngorsaf Manceinion Piccadilly.
A oes llwybrau uniongyrchol i’w cael?
Oes, mae rhai llwybrau uniongyrchol i’w cael o Fanceinion i Fangor. Gallwch weld yn hawdd ar-lein neu ar ein ap symudol.
Trenau eraill o Fanceinion Piccadilly
Manceinion i orsaf Caerdydd Canolog
Trenau eraill i Fangor (Gwynedd)
-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-