Scott Waddington

Cadeirydd

Yn wreiddiol o Abertawe ac wedi graddio o Brifysgol Reading, mae Scott wedi cael amrywiaeth o swyddi uwch yn y sector lletygarwch, yn bennaf ym maes marchnata diodydd a manwerthu tafarndai.

Am 17 mlynedd, bu’n Brif Weithredwr cwmni bragwyr a thafarndai Cymreig sy’n eiddo preifat, SA Brain & Co, lle bu’n arwain adolygiad cynhwysfawr o strategaeth gorfforaethol, gan ail-leoli brand Brains, buddsoddi’n helaeth mewn ehangu’r ystâd tafarndai a chaffael, datblygu a gwerthu’r gadwyn Coffee#1. Roedd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o greu menter ar y cyd i ailddatblygu safle’r Hen Fragdy yn y Cei Canolog.

Scott oedd Cadeirydd CBI Cymru yn 2010 a 2011. Bu’n Gomisiynydd Cymru ar gyfer Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau am bum mlynedd o fis Ebrill 2012, a bu’n gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Clwb Busnes Caerdydd ac yn Llywodraethwr ar Fwrdd Prifysgol Metropolitan Caerdydd.