Ac yntau wedi graddio mewn gwyddorau naturiol yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, bu Alun yn gweithio i KPMG am 37 o flynyddoedd, gan gyflawni nifer o swyddi ar draws y byd, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Llundain, Hong Kong, Sydney a Kazakhstan.
Yn wreiddiol o Landeilo, Alun oedd prif ymgynghorydd cynllunio busnes Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Ef oedd pennaeth byd-eang practis gwasanaethau cynaliadwy KPMG cyn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros 600 o bobl yn rhanbarth Canol Asia y busnes.
Yn gyn Gadeirydd Busnes yn y Gymuned yng Nghymru, roedd Alun yn aelod o Bwyllgor Archwilio Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ac yn aelod o gyngor y Prince’s Trust yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n gadeirydd Pwyllgor Archwilio KAZ Minerals Limited. Alun hefyd yw Cadeirydd Pullman Rail Limited.