Dechreuodd Heather ar ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Trafnidiaeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018.
Roedd swyddi blaenorol Heather yn cynnwys Cyfarwyddwr Cyllid Cleientiaid Allanol yn yr Is-adran Gwasanaethau TG o fewn Capita Group Plc a Chyfarwyddwr Cyllid Gwerthiant a Marchnata i Compass Group Plc ynghyd â swyddi eraill fel Cyfarwyddwr Cyllid Rhanbarthau a busnesau Sector yn Compass Group.
Mae Heather yn gyfrifydd cymwys ac wedi gweithio mewn swyddi amrywiol sy’n gysylltiedig â rheolaeth ariannol a rheoli portffolios amrywiol o gontractau a swyddogaethau allanol o fewn sefydliadau corfforaethol mawr.