Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd Cwestiynau Cyffredin
-
Pryd fydd y gyfnewidfa newydd yn agor?
-
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn agor ym mis Mehefin 2024 a bydd y gwasanaethau bws yn dechrau gwasanaethu ohoni ddydd Sul 30 Mehefin 2024.
Ar ddydd Iau 27, dydd Gwener 28 a dydd Sadwrn 29 Mehefin rhwng 7:00 a 19:00, byddwn yn agor y drysau i’r cyhoedd allu ymweld â’r gyfnewidfa fysiau newydd sbon. Gall y cyhoedd ddysgu mwy am y cyfleusterau sydd ar gael a chwrdd â'n tîm gweithredol i ddarganfod sut y gallant gael mynediad i'r gwasanaethau bysiau fydd yn teithio o'r gyfnewidfa, yn ogystal â gwasanaethau bws a thrên cyfagos yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
-
-
Beth alla i ddisgwyl ar y diwrnod cyntaf y bydd y bysiau yn rhedeg?
-
O'r diwrnod cyntaf, gallech ddisgwyl dull cydgysylltiedig rhwng y gyfnewidfa fysiau a gorsaf drenau Caerdydd Canolog. Bydd arwyddion clir a staff profiadol iawn ar gael i’ch helpu i wneud cysylltiadau di-dor rhwng gwahanol ddulliau teithio yn ogystal â cherdded, olwynio a beicio.
Bydd ein Llysgenhadon Cwsmeriaid wrth law i'ch helpu gynllunio eich taith gan ddefnyddio gwahanol ddulliau, gan gynnwys teithio rhwng y gyfnewidfa fysiau a gorsaf Caerdydd Canolog, yn ogystal â safleoedd bysiau ar y stryd gerllaw. Bydd y llysgenhadon ar gael i gysylltu chi â gwybodaeth ymadael fyw a rhoi cyngor ar y llwybr gorau ar gyfer eich taith. Bydd ein llysgenhadon a staff y gyfnewidfa ar gael yn y brif fynedfa ac yn y prif gyntedd.
Bydd sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid ar gael ym mhrif gyntedd y gyfnewidfa fysiau. Bydd yn dangos gwybodaeth fyw am amseroedd bysiau yn gadael y gyfnewidfa, yn ogystal â gwybodaeth fyw am ymadawiadau trenau o orsaf drenau Caerdydd Canolog.
-
-
Sut wnaethoch chi benderfynu pa wasanaethau i redeg o'r gyfnewidfa fysiau?
-
Buom yn gweithio’n agos gyda chwmnïau bws lleol yn paratoi ar gyfer agor y gyfnewidfa fysiau. Y cwmnïau bws oedd yn penderfynu pa rai o'u gwasanaethau fyddai'n teithio o'r gyfnewidfa fysiau gan ddefnyddio’r 14 bae bws sydd ar gael.
Mae Bws Caerdydd a Stagecoach wedi cadarnhau pa rai o’u gwasanaethau fydd yn rhedeg o'r gyfnewidfa fysiau o 30 Mehefin fel rhan o gam cyntaf agor y safle.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd yma. Cysylltwch â Bws Caerdydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Stagecoach yma. Cysylltwch â Stagecoach i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.
Mae bwriad i wasanaethau eraill ddefnyddio'r gyfnewidfa fysiau yn ddiweddarach eleni. Bydd y gwasanaethau nesaf hyn yn ddechrau gwasanaethu o fis Medi 2024. Fe rannwn ni ragor o fanylion am y gwasanaethau newydd hyn unwaith y bydd y dyddiadau wedi’u cadarnhau.
-
-
Pa mor wahanol fydd y gyfnewidfa o gymharu â’r hen orsaf fysiau?
-
Gan weithio fel rhan o hwb trafnidiaeth Caerdydd, bydd yn cynnig gwell cysylltiadau â gwahanol ddulliau trafnidiaeth gan gynnwys trenau, cerdded, olwynio a beicio, yn y ddinas ac ar draws y rhanbarth sy’n gweddu yn well i’r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau.
- Cynnig gwell dulliau o deithio, o fewn y ddinas ac ar draws y rhanbarth sy’n fwy addas i’r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau.
- Cyfnewidfa bws fodern, lân a diogel gyda chyfleusterau hanfodol i bawb gan gynnwys siopau, toiledau a ffynhonnau dŵr i wneud teithio ar fws yn brofiad mwy cyfforddus.
- Canolbwynt ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth a chaiff ei staffio gan staff cyfeillgar - gan ei gwneud yn gyfarwydd, yn hawdd ac yn ddi-dor i bawb ei ddefnyddio.
- Yn hygyrch i bawb ac yn cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Dyluniwyd y gyfnewidfa gan roi ystyriaeth i deithwyr modern er mwyn hwyluso’r profiad o deithio i bawb er gwaethaf gofynion hygyrchedd. Bydd hyn yn cynnwys palmentydd botymog, mapiau braille ac ystafelloedd changing places i ddileu rhwystrau a chreu mynediad i bawb.
-
-
Beth oedd cost y Gyfnewidfa a sut cafodd ei ariannu?
-
Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn rhan o adeilad cyfnewidfa ehangach Llywodraeth Cymru a’r sector preifat a ddarperir gan Rightacres Property. Mae gosod Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn brosiect gwerth £11m a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
-
-
Sawl bae bws sydd yn y gyfnewidfa?
-
Mae yna 14 bae bws yn y gyfnewidfa.
-
-
Sut mae’r gyfnewidfa fysiau newydd yn cysylltu â dulliau eraill o deithio, yn enwedig beicio?
-
Mae’r gyfnewidfa wedi’i lleoli drws nesaf i adrannau newydd o rwydwaith llwybrau beicio mawr Caerdydd, sy’n golygu ei bod yn hawdd teithio ar feic. Mae'r gyfnewidfa yn daith 50m ar droed i'r orsaf drenau, gan wneud y daith ymlaen yn gyflym a hawdd.
-
-
A oes lle i feiciau yn y gyfnewidfa?
-
Na, nid oes lle i feiciau yn y gyfnewidfa fysiau.
Fodd bynnag, fel rhan o’n gwelliannau arfaethedig ac uwchgynllunio gorsaf Caerdydd Canolog, byddwn yn creu 1,000 o leoedd parcio beiciau o ansawdd uchel. Gallwch ddarganfod mwy am raglen Gwelliannau Caerdydd Canolog yma.
Bydd y rhain yn rhan o seilwaith teithio llesol newydd cyffrous Caerdydd ac yn helpu pobl i deithio’n fwy cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.
-
-
Pa siopau fydd yn y gyfnewidfa?
-
Ar hyn o bryd rydym yn dal i edrych ar opsiynau ar gyfer pa siopau fydd yn y gyfnewidfa. Rydym wedi bod yn siarad â busnesau am y cyfleoedd manwerthu sydd ar gael ac yn ystyried sut y byddai’r rhain yn bodloni’r galw lleol.
Rydym yn cwblhau trafodaethau gyda dau fusnes ar gyfer dau le yn y gyfnewidfa a byddwn yn rhannu mwy o fanylion yn fuan. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y mannau eraill cyn bo hir.
-
-
A yw’r gyfnewidfa bysiau yn hygyrch ac yn gynhwysol?
-
Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Er mwyn cynorthwyo ein cwsmeriaid dall a rhannol ddall, bydd palmentydd botymog yn y cyntedd i dywys cwsmeriaid i'r bae bws priodol, ynghyd â map hygyrchedd all dywys cwsmeriaid i'r baeau bysiau a'r cyfleusterau. Hefyd, mae Ystafell changing places, toiledau hygyrch, toiledau neillryw ac ystafell deulu a chyfarpar llawn. Bydd hyn yn cael gwared ar unrhyw rwystrau - mae’r Gyfnewidfa at ddefnydd pawb.
-
-
Pa fesurau diogelwch sydd ar waith yn y gyfnewidfa?
-
Mae lleoliad y gyfnewidfa yn golygu y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn elwa ar ganolfan drafnidiaeth olau, agored a glân sy'n ddiogel, diolch i'r dechnoleg wyliadwriaeth ddiweddaraf a'n swyddogion diogelwch cyfeillgar. Bydd y gyfnewidfa fysiau a gorsaf Caerdydd Canolog yn cael eu rheoli fel un ganolfan, gyda systemau gwybodaeth cwsmeriaid a gwybodaeth ynglŷn â dod o hyd i’ch ffordd sydd yn hawdd eu deall, yn yr orsaf drenau a'r gyfnewidfa.
-
-
Sut mae sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid yn derbyn gwybodaeth ymadael fyw?
-
Mae'r sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid yn derbyn gwybodaeth ymadael amser real o gronfa ddata ganolog fel bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am y bysiau sy'n gadael y gyfnewidfa. Bydd hyn yn cynnwys amseroedd ymadael y bysiau a rhif y bae y mae’r bws yn gadael ohono. Mae'r system hefyd yn derbyn gwybodaeth am leoliadau byw’r bysiau. Os na all y system ddod o hyd i wybodaeth amser real o'r gronfa ddata ganolog, yna bydd y sgriniau gwybodaeth yn dangos yr amseroedd ymadael yn ôl amserlenni’r cwmnïau bws.
-
-
Beth fydd yn digwydd pan gynhelir digwyddiadau mawr yng nghanol y ddinas?
-
Pan fydd ffyrdd ar gau ar gyfer digwyddiadau mawr a gynhelir yng nghanol y ddinas, bydd y gyfnewidfa fysiau'n cau, a bydd bysiau'n dargyfeirio i safleoedd bws wedi’u lleoli ar y stryd, y tu hwnt i ffiniau'r ardal lle y mae’r ffyrdd ar gau. Bydd siopau sydd â mynediad i'r Sgwâr Canolog o’r tu allan yn dal i allu agor pan gynhelir digwyddiadau. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau bysiau i sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod cyfnodau o darfu, gan gynnwys ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr.
-
-
All coetsys ddefnyddio’r gyfnewidfa?
-
Dim ond bysiau fydd yn defnyddio’r gyfnewidfa a bydd coetsys yn parhau i ddilyn y drefn arferol. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid ar astudiaeth i archwilio sut y gellir gwella arosfannau coetsys yng Nghaerdydd. Bydd yr astudiaeth hon yn cefnogi unrhyw benderfyniadau neu waith pellach a wneir gan bartneriaid.
-
-
Beth yw oriau agor y gyfnewidfa?
-
Bydd y gyfnewidfa yn agor ychydig cyn y gwasanaeth bws cyntaf ac yn cau yn fuan ar ôl gwasanaeth bws olaf y dydd.
-
-
Ar ba adegau fydd staff ar gael yn y gyfnewidfa?
-
Bydd staff yn y gyfnewidfa pan fydd ar agor a bydd mwy o gymorth i gwsmeriaid yn ystod cyfnodau prysur o’r dydd.
-
-
Pa elfen o’r adeilad y mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol amdani?
-
TrC sy’n gyfrifol am yr orsaf fysiau a’r ffedog fysiau (yr ardal y mae’r bysiau’n cyrraedd ac yn gadael ohoni). Bydd gweddill y datblygiad y tu allan i'r ardal hon yn cael ei brydlesu a'i weithredu gan drydydd parti.
-
-
Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf gwyn neu adborth am y gyfnewidfa fysiau?
-
Os oes gennych gwyn neu adborth am wasanaeth bws sy'n rhedeg o'r gyfnewidfa fysiau, cysylltwch â'r cwmnïau bysiau yn uniongyrchol.
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Bws Caerdydd yma: Bws Caerdydd.
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Stagecoach yma: Stagecoach.
Os hoffech wneud cwyn neu roi adborth yn ymwneud â'r gyfnewidfa fysiau, ffoniwch Traveline Cymru - 08004 640 000 neu lenwi ein ffurflen adborth yma.
-