Archwiliwch Cricieth

Gwybodaeth llwybr Criccieth

Mae’r llwybr hwn yn dilyn cymysgedd o lwybrau tarmac a phalmentydd gyda’r opsiwn o fynd ar y traeth.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Cricieth Ramblers Cymru

Criccieth route map
  1. Wrth adael yr orsaf, cymerwch y llwybr sy’n croesi’r cledrau. Dilynwch y llwybr hwn a phenderfynu a ydych eisiau archwilio'r warchodfa natur fach ar y naill ochr neu'r llall. Pan fydd y llwybr yn mynd i fyny ychydig ac yn cyrraedd cyffordd, dilynwch y llwybr i’r dde. Bydd yn ymuno â ffordd ac yna’n cwrdd â’r traeth.
  2. Trowch i'r chwith wrth y môr a dilyn y ffordd i fyny'r allt, gan basio'r castell ar y dde. (Os ydych chi'n dymuno mynd i mewn i'r castell, gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar-lein neu ar y safle). Bydd y ffordd yn dechrau disgyn eto ar ôl y castell ac ewch ymlaen tuag at orsaf y bad achub (a sefydlwyd yn 1853) a'r môr eto.
  3. Gallwch chi naill ai gerdded ar hyd glan y môr neu ar y prom nes bydd y ffordd yn troi i’r chwith wrth Dylans. Dewch yn ôl drwy’r ardd (mae toiledau ar gael yma) at y ffordd wrth orsaf y bad achub. Yn y fan hon, gallwch fynd i mewn i’r dref a mwynhau’r siopau a’r caffis.
  4. I ddychwelyd i’r orsaf, dilynwch y ffordd dros y rheilffordd a chymerwch droad i’r chwith i’r maes parcio arhosiad hir. Yn y fan hon eto mae toiledau cyhoeddus. Mae llwybr ar ben draw’r maes parcio yn eich arwain yn syth yn ôl i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.