Blaenau Ffestiniog

Gwybodaeth llwybr Blaenau Ffestiniog

Mae’r llwybr hwn yn dilyn y Llwybr Llechi am gyfnod byr cyn dringo at olygfa ysblennydd
o’r Moelwynion. Dychwelyd ar hyd y palmant yn ôl i’r dref.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau All information is correct at the time of publishing and is subject to change.

 

Llwybr Cerddwyr Blaenau Ffestiniog

Blaenau Ffestiniog route map
  1. Wrth adael yr orsaf, ewch i fyny i’r Stryd Fawr a throi i’r dde. (Mae toiledau cyhoeddus ar gael yn y maes parcio mawr y tu ôl i Dŷ Coffi Stiniog). Dilynwch y ffordd am ychydig at Heol Glynllifon a thafarn y Meirion. Trowch i’r dde yn y fan hon a dilyn y ffordd, gan groesi dros y rheilffordd.
  2. Pan gyrhaeddwch y groesffordd, trowch i’r dde ac ychydig cyn yr ysgol fe welwch arwydd llwybr troed ar y chwith yn nodi'r llwybr llechi. Dilynwch y llwybr am ychydig, a phan fydd y tarmac yn gwyro i’r dde bydd arwydd llwybr llechi yn eich arwain i’r chwith i lawr allt drwy goetir. Parhewch i ddilyn mynegbyst y llwybr llechi nes i chi gyrraedd y ffordd.
  3. Yno, trowch i’r chwith ac yna mynd drwy gât gyda chamfa wrth ei hymyl. Yno, bydd y llwybr llechi’n parhau ar hyd y trac ond dewiswch y llwybr troed i’r chwith sy’n anelu’n serth i fyny’r allt. Mae’r allt fer yn werth yr ymdrech a byddwch yn cael golygfeydd godidog dros y Moelwynion ac argae Stwlan.
  4. Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd trac tarmac. Yno, trowch i’r chwith ond yna cadwch yn syth ymlaen a bydd toriad bychan drwodd yn mynd â chi i’r chwith o wrych. Trowch i’r dde ac yna i’r chwith, ac fe ddewch at y briffordd.
  5. Trowch i’r chwith yno, a dilyn y palmant yr holl ffordd yn ôl i ganol y dref ac i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ymestyn ar hyd Arfordir Gogledd Cymru, ac yn galw yn sawl lle ar hyd y ffordd, fel y gallwch neidio oddi ar y trên a naill ai dechrau neu barhau â'ch antur. Mae ein pasys Ranger Crwydro Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ffordd wych o deithio o gwmpas Gogledd Cymru ar y trên ac ar fysiau gweithredwyr bws penodol.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.