Archwiliwch Pwllheli

Gwybodaeth llwybr Pwllheli

Mae'r llwybr hwn yn dilyn cymysgedd o lwybrau tarmac a phalmentydd yn ogystal â darn byr trwy'r twyni tywod. Mwynhewch olygfeydd ardderchog o'r harbwr a mynyddoedd Eryri.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Pwllheli Ramblers Cymru

Pwllheli route map
  1. Gyda’ch cefn at yr orsaf ac yn wynebu Weatherspoons, trowch i'r chwith i lawr Ffordd y Cob. Cymerwch y ramp i'r dde o’r ffordd, a dilyn y llwybr ar hyd ardal y gwlyptir. Pan fydd hyn yn agor allan ac yn cwrdd â’r ffordd eto, cadwch i'r dde gan barhau i dilyn ymyl ardal y gwlyptir.
  2. Ar ôl tua 250m, ewch ar y llwybr troed ar y chwith, gan fynd heibio’r ysgol. Pan fyddwch yn cwrdd â’r tai a’r ffordd, ewch yn syth drosodd nes i chi gyrraedd y traeth. Trowch i'r chwith, gan naill ai gerdded ar hyd y prom neu ar hyd y traeth ei hun.
  3. Pan fydd y ffordd yn troi’n sydyn i'r chwith, gallwch ddewis mynd draw at y creigiau ac yn ôl. I wneud hyn, dilynwch y llwybr glaswelltog yn syth ymlaen ychydig uwchben y traeth. Mae’n mynd â chi at Grochan Berw. Sef creigiau braf uwchben y môr.
  4. Ewch yn ôl ar yr un llwybr, a phan fyddwch yn cwrdd â’r prom eto, trowch i'r dde yn ôl tuag at ganol y dref.
  5. Ar ôl tua 250m, cymerwch lwybr i'r dde. Mae'r ddolen wastad fer hon o amgylch yr harbwr mewnol yn lle gwych i edrych ar y cychod yn y marina. Cadwch y dŵr ar y dde i chi, a daliwch ati i ddilyn y llwybr o gwmpas. Fe ddewch yn ôl i’r ffordd yn fuan lle gallwch droi i'r dde a dilyn y ffordd yn ôl i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.