
Archwiliwch Bae Colwyn

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo yn Rhos. Mae’r daith yn ôl ar yr un llwybr.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Bae Colwyn Ramblers Cymru

- Gadewch yr orsaf a throi i’r chwith i lawr y llwybr troed ac o dan bont y rheilffordd. Byddwch chi’n cyrraedd glan y môr ar unwaith.
- Trowch i'r chwith a dilyn yr arfordir (bydd y môr ar y dde i chi) i Landrillo yn Rhos lle bydd siopau, caffis a chae chwarae. Yn union ar ôl y prif siopau a’r caffis, fe welwch gapel bychan Sant Trillo ar lan y môr. Mae’n werth ei weld, gyda seddi i chwech yn unig o bobl a’r allor wedi’i hadeiladu uwchben ffynnon naturiol y credir ei bod yn ffynnon sanctaidd hynafol.
- Mae’r daith yn ôl ar yr un llwybr.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.