Llun gan Jasper180969/CC BY-NC-SA 2.0

Archwiliwch Penarlâg

Gwybodaeth llwybr Hawarden

Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau o gwmpas y pentref, sy’n pasio’r eglwys a’r llyfrgell ac yna’n mynd i dir y castell. Mae cae chwarae ar y llwybr.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Penarlâg Ramblers Cymru

Hawarden route map
  1. Gadewch yr orsaf a throi i’r dde. Croeswch y ffordd a dilyn yr arwydd llwybr troed i’r chwith i’r cae chwarae. Dilynwch y llwybr i lawr yr ochr dde, a chadwch i’r dde nes bydd y llwybr yn cwrdd â’r ffordd wrth dŷ mawr â nodweddion du a gwyn.
  2. Croeswch y ffordd sy’n mynd i’r chwith, ac fe welwch arwydd y llwybr troed yn mynd â chi drwy’r twll yn y wal ac at yr eglwys. Dilynwch at yr eglwys ac o gwmpas ochr dde’r adeilad. Mae’r eglwys ar agor i ymwelwyr fel arfer. Wrth fynd drwy’r brif gât ar y dde mae Llyfrgell Gladstone. Cafodd ei hadeiladu yn 1902 ac mae’n sefydliad unigryw sy’n werth ymweld ag ef.
  3. Ewch yn eich blaen i lawr Lôn yr Eglwys i’r briffordd a throi i’r chwith. Dilynwch y pellter byr at y groesffordd. Ar y dde i chi mae’r fynedfa i dir Castell Penarlâg. Mae llawer o dir y castell ar gau i’r cyhoedd ond gallwch gerdded drwy’r brif fynedfa drwy’r parcdir hyfryd i weld y Castell.
  4. Ar ôl gwneud hyn, dewch yn ôl drwy’r brif fynedfa a throwch i’r chwith gan fynd i lawr yr allt a mynd heibio’r maes parcio. Yn union ar ôl y maes parcio, croeswch y ffordd a mynd drwy’r gât i’r llwybr troed. Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd adeiladau. Yno, cymerwch y llwybr i’r dde tuag at fwy o dai.
  5. Wrth fynd i mewn i’r stad o dai, cymerwch y troad cyntaf i’r chwith. Bydd toriad terfynol yn mynd â chi drwodd i’r briffordd lle byddwch yn troi i’r chwith ac yn cyrraedd yn ôl i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.