
Archwiliwch Gwersyllt

Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd a llwybrau caled gwastad yn y parc gwledig.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Gwersyllt Ramblers Cymru

- Gadewch yr orsaf ar ochr arall y traciau at Lidl, a cherddwch nes i chi gwrdd â’r ffordd. Trowch i’r chwith.
- Dilynwch y ffordd nes i chi gwrdd â chylchfan ger tanffordd. Trowch i’r dde wrth y gylchfan. Dilynwch y ffordd hon heibio Ysgol Bro Alun.
- Wrth y clwb criced, trowch i'r chwith a dilyn y trac i Barc Gwledig Dyfroedd Alyn. Trowch i’r dde yn y parc a dilyn y llwybr at gyffordd lle byddwch chi’n cadw i’r dde. Dilynwch y llwybr hwn a byddwch yn cyrraedd ffordd.
- Defnyddiwch y llwybr wrth ymyl y ffordd i droi i’r chwith a mynd i lawr at yr afon. Arhoswch y tu mewn i’r parc gwledig a dilyn y llwybr ar hyd yr afon (bydd yr afon ar y dde i chi). Ymhen amser, bydd yn gogwyddo i'r chwith wrth y gored a bydd y llwybr yn eich arwain yn ysgafn i fyny at y ganolfan ymwelwyr.
- Bydd toiledau, caffi a chae chwarae yno. Pan fyddwch chi’n barod i ddychwelyd i’r orsaf, dilynwch y llwybr gyda’r cae chwarae ar y dde i chi. Wrth y gyffordd ar ben y cae chwarae, trowch i'r chwith a bydd llwybr syth yn eich arwain yr holl ffordd yn ôl at y clwb criced lle gallwch ddychwelyd yr un ffordd i'r orsaf.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.