Archwiliwch Abermaw

Gwybodaeth llwybr Abermaw

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru dros bont Abermaw cyn dilyn yr aber draw at ben draw rheilffordd Fairbourne. Yn y fan hon, gellir defnyddio fferi fach (rhwng y Pasg a mis Hydref) i groesi’r pellter byr yn ôl i Abermaw.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Abermaw Ramblers Cymru

Barmouth route map
  1. Ewch allan o’r orsaf a dilyn y ffordd i lawr i’r traeth. Trowch i’r chwith a dilyn y promenâd heibio gorsaf y bad achub a’r harbwr (mae toiledau cyhoeddus ar gael yma). Croeswch o dan y rheilffordd a throi i’r dde ar y briffordd. Dilynwch y ffordd nes bydd arwydd ar yr ochr dde i chi yn eich cyfeirio at bont Abermaw. Bydd yr arwydd hefyd yn dweud Llwybr Arfordir Cymru. Mae pont Abermaw yn draphont bren restredig gradd II, mae’n 820m a dyma’r draphont bren hiraf yng Nghymru ac un o’r rhai hynaf sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd ym Mhrydain.
  2. Ar ôl croesi’r bont, fe gyrhaeddwch orsaf Morfa Mawddach y gellir ei defnyddio i ddychwelyd i Abermaw os ydych chi eisiau taith gerdded fyrrach. Fel arall, cymerwch y llwybr ar y dde sydd â’r arwydd Llwybr Arfordir Cymru a fferi Abermaw. Mae’r llwybr yn parhau gyda’r aber ar y dde i chi hyd nes y byddwch chi’n cwrdd â’r ffordd wrth y cwrs golff. Yn y fan hon, trowch i’r dde a mynd at ben draw rheilffordd Fairbourne. Mae caffi a thoiledau ar gael yma. Wrth fynd i lawr at y traeth, fe welwch wybodaeth am y fferi sy’n darparu taith ddwyffordd hwyliog i Abermaw.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.