
Archwiliwch Fflint

Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau caled o amgylch Castell y Fflint ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Fflint Ramblers Cymru

- O’r orsaf, cerddwch y daith fer ar draws y ffordd at lwybr yr arfordir a Chastell y Fflint. Castell y Fflint yw’r cynharaf a’r mwyaf anarferol o gestyll Seisnig Cymru. Yn tra-arglwyddiaethu arno mae tŵr mawr, sydd â’i ffos a’i bont godi ei hun fel petai’n gastell o fewn castell.
- Ar ôl mwynhau’r castell, ewch allan ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae opsiynau gwahanol ar gyfer adegau o lanw isel a llanw uchel, ynghyd â golygfeydd gwych dros Aber Afon Dyfrdwy drosodd i Gilgwri. Cerddwch heibio cerflun yn arddangos milwr o’r Ail Ryfel Byd yn edrych allan i'r môr. Mae’n lle rhagorol i wylio adar hefyd. Pan fo’r llanw allan mae llawer o rywogaethau’n bwydo ar y traethellau, a phan fo’r llanw i mewn maen nhw’n aml i’w gweld ar y morfa heli.
- Ewch ymlaen cyn belled â’r ail gerflun. Dyma ‘Warchodwr Sir y Fflint’, sy’n 3m o uchder ac yn edrych allan tuag at Ynys Hillbre o Bwynt y Fflint. Yn y fan hon, trowch i mewn i’r tir a dilyn llwybr coetir o amgylch y morfa heli cyn ail-ymuno â llwybr yr arfordir a dychwelyd yr un ffordd at y castell ac yna at yr orsaf.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.