Archwiliwch Bangor

Gwybodaeth llwybr Bangor

Mae'r llwybr hwn yn dilyn palmentydd a llwybrau tarmac i'r Pier. Gallwch fwynhau golygfeydd arbennig ar draws Afon Menai...

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Bangor Ramblers Cymru

Bangor route map
  1. Ewch allan o'r orsaf a dilyn y ffordd i’r chwith i fyny'r allt. Heibio’r safle bws, cymerwch y troad cyntaf i’r chwith o’r enw Lôn Cwfaint. Dilynwch y lôn i fyny’r allt, heibio’r ysgolion ac ymhen amser fe ddewch allan ar y briffordd wrth ymyl Coleg Menai a Neuaddau Llety’r Brifysgol.
  2. Trowch i’r dde, yna ewch i’r chwith ar ôl yr adeiladau llety. Bydd hyn yn mynd â chi i fyny’r allt ar Barc Fictoria. Mae’r ffordd yn gwyro i’r chwith a heibio maes parcio’r staff a’r Coleg Rhyngwladol. Dilynwch y ffordd i’r dde, a dilyn Rhodfa Menai i lawr yr allt at ffordd Caergybi a golygfa o Afon Menai.
  3. Pan fyddwch yn cwrdd â’r briffordd, trowch i’r dde a chymryd y ffordd leiaf tua’r chwith. (Ffordd Siliwen) Mae’r ffordd hon yn eich arwain yr holl ffordd at y Pier. Mae rhai ardaloedd hyfryd o barcdir lle gallwch ddod oddi ar y ffordd am ychydig ac mae meinciau i chi gael hoe.
  4. Mae toiledau cyhoeddus ger y pier. Codir tâl mynediad bychan ar oedolion i fynd ar y pier ei hun. Am ddim i blant.

I ddychwelyd, dilynwch yr un llwybr yn ôl i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.