Archwiliwch Penrhyndeudraeth

Mae’r llwybr byr hwn yn archwilio Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr. Ffatri arfau oedd hi gynt, mae bellach yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a gymerodd yr awenau pan ddatgomisiynwyd y safle.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Penrhyndeudraeth Ramblers Cymru

- Trowch i'r chwith wrth yr orsaf a pharhau ar hyd y ffordd nes i chi gyrraedd stad ddiwydiannol Cooke ar y chwith i chi. Trowch i mewn i’r stad a mynd yn syth heibio’r gatiau gwyn i warchodfa natur Gwaith Powdwr. Gallwch hefyd gael taflen yma gyda map o’r warchodfa a manylion ei hanes a’i bywyd gwyllt.
- Dilynwch y prif lwybr tarmac i fyny’r allt, gan droi i’r dde wrth y panel dehongli, ac yna’n syth dros y bont goncrid. Bydd y llwybr yn eich arwain at sied storio fawr. Ewch yn syth heibio iddo ac fe ddewch at sied lai o faint. Dilynwch y llwybr serth i fyny’r allt, ac fe ddewch at bwll dŵr, ac yna trydydd adeilad gyda set o risiau wrth ei ymyl. Dilynwch y grisiau at y rhostir.
- Ar ôl i chi gyrraedd pen y grisiau, parhewch ar hyd y llwybr. Mae taith ddewisol i’r chwith tuag at gwt y pendil mawr, neu gallwch ddilyn y llwybrau i gwrdd â thrac sy’n mynd yn ôl i lawr at y ffordd.
- Trowch i’r dde ar ôl i chi gyrraedd y ffordd er mwyn mynd yn ôl i'r orsaf.
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Lawrlwythwch GPX
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.