Archwiliwch Rhosneigr

Gwybodaeth llwybr Rhosneigr

Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd i mewn i’r dref ac yna’n dilyn y traeth a’r twyni cyn dychwelyd ar hyd llwybr tebyg.

Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.

 

Llwybr Rhosneigr Ramblers Cymru

Rhosneigr route map
  1. Gadewch yr orsaf a throi i’r chwith gan ddilyn y palmant ar hyd y ffordd. Ewch heibio’r Clwb Golff a bydd y ffordd yn gwyro tua’r chwith. Dilynwch yr holl ffordd i lawr at dŵr y cloc yng nghanol y pentref. Fe welwch siopau a chaffis yn y fan yma. Croeswch yn syth wrth y tŵr a pharhau i lawr y stryd tuag at y môr. (Ar gyfer toiledau cyhoeddus, dilynwch yr arwydd i'r chwith ar ôl Sandy Mount House).
  2. Bydd y ffordd yn arwain i lawr at y môr, ac yna’n gwyro i’r chwith. Dilynwch hon. Pan fydd y ffordd yn gwyro i'r chwith eto, ewch yn syth at y traeth.
  3. Ar y traeth ar ôl i chi fynd o amgylch y mur, edrychwch i’r chwith ac fe welwch pont droed fechan. Ewch yn eich blaen i fyny a thros y bont at y twyni tywod. O’r fan hon, mae nifer o lwybrau ar draws y twyni i’w harchwilio neu gallwch dorri’r siwrnai at y traeth ac ar ei hyd. Mae golygfeydd gwych i'w cael ar bob un.
  4. Pan gyrhaeddwch y tai ar ben draw’r traeth/twyni, trowch i'r chwith gan ddilyn y trac i gwrdd â'r ffordd. (Bydd y carafanau ar y dde i chi).
  5. Pan gyrhaeddwch y ffordd, dilynwch y palmant ar y chwith yn ôl i’r pentref. Byddwch chi’n cyrraedd yn ôl wrth y cloc. Trowch i’r dde i ddychwelyd yr un ffordd i’r orsaf.

Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX

Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau

 

Cyrraedd

Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.