Archwiliwch Caergwrle

Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd o gwmpas y pentref yn bennaf. Mae dringfa serth at y castell yn werth yr ymdrech, ac mae’r hen bont geffylau yn darparu croesfan ddiddorol dros afon Alun.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Caergwrle Ramblers Cymru

- O’r orsaf, ewch allan i’r A550 a throi i’r chwith. Dilynwch am tua 600m cyn belled â throad i’r dde o’r enw Crossways. Ewch yn syth ymlaen. Pan fydd y ffordd yn gwyro i’r dde yn y pen draw, mae cyfle i fynd i'r cae chwarae. Neu, ewch yn syth ymlaen drwy’r llwybr bychan a byddwch yn ymuno â’r briffordd.
- Trowch i’r dde a dilyn i mewn i’r pentref. Pan fyddwch yn cwrdd â chyffordd wrth ymyl SPAR, byddwch yn gweld troad i’r dde i fyny at gastell Caergwrle. Dringfa serth ond byr, sy’n werth yr ymdrech i archwilio’r hen adfeilion. Adeiladwyd Castell Caergwrle rhwng 1278- 82 gan Dafydd ap Gruffudd. Dyma’r castell olaf i gael ei adeiladu gan dywysog Cymreig brodorol.
- Gwnewch siâp dolen o gwmpas y top a dychwelyd yn ôl ar yr un llwybr. Cadwch SPAR ar yr ochr dde i chi a dilyn y ffordd drwy’r pentref. Ar ôl i chi basio’r maes parcio ar y chwith, cymerwch y lôn gyntaf ar y dde (arwydd llwybr cyswllt gogledd Cymru).
- Ewch yn syth dros y ffordd nesaf a dilyn y llwybr i lawr a thros yr hen bont geffylau. Roedd yr holltau siâp V yn y waliau yn caniatáu i gerddwyr gadw draw oddi wrth y ceffylau. Dilynwch y llwybr hwn i fyny ac yna dros y rheilffordd cyn mynd i lawr drwy stad fechan o dai i gwrdd â’r ffordd.
- Trowch i’r dde wrth y ffordd a mynd yn ôl ar y daith gerdded.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.