
Archwiliwch Llanrwst

Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau drwy’r dref ac yna ar hyd afon Conwy. Mae cae chwarae ger diwedd y llwybr.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Llanrwst Ramblers Cymru

- Wrth adael gorsaf Llanrwst, trowch i'r chwith gan fynd i ganol y dref. Pan gyrhaeddwch dŵr y cloc, ewch i’r dde a dilyn y ffordd wrth iddi wyro tua’r dde wrth Snowdonia Antiques.
- Dilynwch y ffordd heibio’r llyfrgell nes i chi weld ffordd yr Orsaf yn troi i’r chwith. Dilynwch y ffordd at Orsaf Gogledd Llanrwst. Ychydig cyn yr orsaf, trowch i’r chwith gan fynd heibio stad ddiwydiannol fechan a chroesi afon Conwy dros Bont Gower.
- Yn syth ar ôl y bont, cymerwch y gamfa ar y chwith sy’n eich arwain i mewn i'r cae. Dilynwch y llwybr clir nes bydd camfa arall yn mynd â chi i’r chwith. Yna, bydd nifer o gamfeydd yn eich arwain dros gaeau at drac. Cofiwch fod yr ardal hon yn cael llifogydd felly gall glaw trwm olygu ei bod yn wlyb iawn.
- Trowch i’r chwith ar y trac, a’i ddilyn nes i chi gwrdd â’r ffordd. Ar ôl croesi, fe ddewch at gae chwarae bychan neu er mwyn parhau â’r llwybr trowch i’r chwith ar y ffordd a byddwch yn ofalus wrth groesi’r bont. Ar ôl croesi'r bont, trowch i'r chwith a dilyn y ffordd yn ôl i ganol y dref ac at dŵr y cloc. Bydd troad i’r dde yn y fan hon yn mynd â chi’n ôl i’r orsaf.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.