
Fel rhan o Fis Cerdded Genedlaethol, rydym yn tynnu sylw at bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth i gyrraedd llwybrau cerdded. Yma, mae Steve Melia yn pwysleisio faint o'n harfordir hardd y mae modd ei gyrraedd ar y trên. Prynwch eich tocyn trên i ymuno ag ef yn Aberdyfi ar 29 Mai 2025!
Cerdded ar hyd yr arfordir gan ddefnyddio’r trên - Ymunwch â ni yn Aberdyfi ar 29 Mai 2025
Fe wnaethom sefydlu Railwalks.co.uk y llynedd, i annog pobl i gyrraedd llwybrau cerdded gan ddefnyddio'r trên ac i roi cyhoeddusrwydd i'r amrywiaeth eang o deithiau cerdded sydd ar gael ledled Prydain. Yn ddiweddar, fe wnaethon ni lunio map o'r arfordir, sy’n dangos y 250 o orsafoedd sydd wedi’u lleoli ar hyd yr arfordir, a'r pellteroedd rhyngddynt ar lwybr yr arfordir. Fe wnaethon ni daro ar y syniad o greu Coastal Railtrail er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r tudalennau hynny, ac i ymuno â llawer o ddigwyddiadau eraill sy'n dathlu pen-blwydd y rheilffyrdd yn 200 oed eleni.
Dw i’n angerddol dros ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd llwybrau cerdded pellter hir. I arddangos y teithiau cerdded hyn, dw i'n gwneud taith gerdded 600 milltir o amgylch arfordir Prydain yr haf hwn (bydd llawer o gefnogwyr Railwalks yn ymuno â mi), gan gynnwys rhan 7 diwrnod yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Ymunwch â ni yng ngorsaf Aberdyfi i ddechrau am 9.45am ddydd Iau 29 Mai 2025. Byddwn yn pasio tair gorsaf, gan gynnig dewis o deithiau cerdded pellter byr (5 milltir), canolig (8 milltir) neu hir (13 milltir). Os hoffech chi ymuno â ni, dewch yn barod i fynd amdani.
Dw i wastad wedi mwynhau cerdded yng nghefn gwlad. Pan symudon ni o ardal wledig Dyfnaint i Fryste 16 mlynedd yn ôl, fe wnaethon ni roi'r gorau i'n car. Dechreuais ddal trenau a bysiau i’r cefn gwlad o amgylch Bryste, gan gynnwys cymoedd De Cymru. Dw i wedi fy synnu pa mor bell y mae modd i mi gyrraedd: o deithiau cerdded gwastad ar hyd afonydd, i ddringfeydd gwyllt a heriol dros fynyddoedd Cymru.
Cyn hynny, doedd gen i ddim syniad faint o lwybrau ym Mhrydain wledig y gallwch gerdded wrth deithio i leoliadau ar y trên – y rhan fwyaf ohonynt, mewn gwirionedd. Darganfyddais hyn trwy gymryd map a chamu allan o orsaf Bryste Temple Meads. Yn ddiweddarach, dechreuais ddod o hyd i wefannau gyda gwybodaeth leol am deithiau cerdded o fewn cyrraedd hawdd o orsafoedd trên. Roedd dau o aelodau ein grŵp llywio, Andy Stevenson a Kieran Seale, wedi creu gwefannau ar gyfer Swydd Gaerwrangon a'r Chilterns, yn y drefn honno. Fe wnaethon ni benderfynu dod â'n gwybodaeth at ei gilydd ar wefan genedlaethol.
Y ‘Railtrail’ arfordirol fydd y daith gerdded hiraf i mi ei gwneud erioed. Byddaf yn gadael fy nghartref ar 6 Mai ac ni fyddaf yn dychwelyd tan ddiwedd mis Gorffennaf. Mae dros 30 o gefnogwyr Railwalks wedi cofrestru i ymuno â mi ar gyfer gwahanol rannau o’r daith ledled y wlad. Bydd dau o'r diwrnodau ar agor i unrhyw un ddod i ymuno â ni: ar ddechrau’r daith yn Essex ac yn Aberdyfi ar 29 Mai. Dw i’n gobeithio cwrdd â llawer ohonoch yno.
Steve Melia
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.