Teithiau cerdded pellter hir
Mae gan Gymru dros 1,000 milltir o lwybrau cerdded, o Lwybr Arfordir Cymru i Glawdd Offa a Llwybr Glyndŵr y gellir eu cyrraedd o nifer o'n gorsafoedd ar hyd ein rhwydwaith.
Rhai o'n hoff lwybrau

Bae Colwyn | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo yn Rhos. Mae’r daith yn ôl ar yr un llwybr.

Fflint | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau caled o amgylch Castell y Fflint ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Prestatyn | 3 awr / 5 filltir
Grisiau, rhannau mwy serth a thir anwastad
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Clawdd Offa o’r orsaf i fyny Mynydd Prestatyn. Mae’r ddringfa’n llawn golygfeydd godidog o'r môr a draw at y Gogarth. Ar ôl cyrraedd y piler ar y Graig Fawr, byddwch yn dychwelyd ar hyd hen reilffordd a sy’n hawdd ei cherdded ar y gwastad.