Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn un o'r ychydig lwybrau troed yn y byd i ddilyn arfordir cenedl. Mae'n 870 milltir o hyd ond peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi gerdded y cyfan ar un tro. Gallwch gyrraedd pwyntiau allweddol ar hyd y llwybr drwy ddefnyddio ein gwasanaethau trên a bws. Defnyddiwch ein cynlluniwr teithiau i gymryd y cam cyntaf ar eich antur nesaf.

Bae Colwyn | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo yn Rhos. Mae’r daith yn ôl ar yr un llwybr.

Bwriwch olwg ar lwybr Bae Colwyn

Flint Castle

Fflint | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd

Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau caled o amgylch Castell y Fflint ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Bwriwch olwg ar lwybr y Fflint

Cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar y trên

Mae cerdded hyd Llwybr Arfordir Cymru yn un o'r heriau cerdded pellter hir mwyaf yn y byd. Er mwyn eich helpu i fynd i'r afael ag ef, rydym wedi rhannu'r llwybr yn wyth rhan, gan dynnu sylw at y gorsafoedd trên agosaf.

Mwy o deithiau cerdded pellter hir

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.