
Cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar y trên
Mae cerdded hyd Llwybr Arfordir Cymru yn un o'r heriau cerdded pellter hir mwyaf yn y byd. Mae'n 1,400km o hyd ac yn rhedeg arfordir Cymru gyfan.
Er mwyn eich helpu i fynd i'r afael ag ef, rydym wedi rhannu'r llwybr yn wyth rhan, gan dynnu sylw at y gorsafoedd trên agosaf. Ymwelwch â TrawsCymru i weld sut mae cyrraedd rhannau eraill ar y bws. Mae'n modd cwblhau'r llwybr cyfan gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae cerdded yn rhoi mynediad unigryw i chi i wylltiroedd Cymru. Beth am brofi traethau Sir Benfro ar eich pen eich hun? Gweld y Gwŷr yn ei holl ogoniant. Gweld yr haul yn codi dros fynyddoedd Eryri. Darganfod gwlypdiroedd golygfaol Casnewydd.
Mae hefyd yn ffordd wyrdd o deithio. O ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rydych yn cyfyngu ar yr effaith a gewch ar yr amgylchedd gan wneud teithiau cerdded cylch yn bosibl.
Eisiau rhoi cynnig ar y llwybr? Rydym wedi casglu gwybodaeth am nifer o lwybrau byr y gallwch eu cyrraedd ar y trên neu'r bws. Beth am gael blas ar gerdded ar hyd llwybrau arfordir Cymru ar brynhawn Sul efallai?
Pob llwybr
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.