Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren

Cynffig i Gas-gwent

Ewch heibio dair o ddinasoedd mwyaf Cymru a mwynhau golygfeydd ysblennydd o Aber Hafren ac arfordir treftadaeth Morgannwg.

 

Ynys y Barri

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio o flaen gorsafoedd rheilffordd Ynys y Barri a’r Barri. O’r Barri, trowch i’r chwith i ddarganfod hyfrydwch Ynys y Barri, neu i’r dde i anelu tuag at Benarth. O Ynys y Barri, cerddwch i lawr i lan y môr a mwynhau teithiau cerdded pentir naill ai drwy droi i’r chwith neu i’r dde.

 

Gorsaf Bae Caerdydd

Dewch oddi ar y trên yn Bae Caerdydd ac ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yn syth ar draws y ffordd ar Rodfa Lloyd George. O’r fan hon gallwch ddewis dilyn rhan boblogaidd o’r llwybr heibio Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a thros y morglawdd llanw tuag at Benarth (lle gallwch ddal trên yn ôl i orsaf Caerdydd Canolog). Neu, gallwch groesi i Heol Hemingway i ymuno â’r llwybr sy’n mynd tuag at y morglawdd hir unig i Gasnewydd.

 

Cas-gwent

Mae Cas-gwent ym mhen deheuol Llwybr Arfordir Cymru, ac ni allai gorsaf reilffordd Cas-gwent fod yn fwy cyfleus fel pwynt mynediad i’r llwybr. Ewch yn syth i lawr Station Road o’r orsaf i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ger archfarchnad Tesco. Mae castell gwych sy’n 600 mlwydd oed yn tremio dros dref farchnad hyfryd Cas-gwent, a gallwch gael mynediad 2 am bris 1 i safleoedd CADW gyda’ch tocyn trên, felly beth am fwynhau’r castell a Llwybr Arfordir Cymru ar yr un diwrnod?

 

Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith

Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.